Rhai ysgolion ar gau oherwydd y tywydd

Safleoedd ddim yn ddiogel

Carwyn
gan Carwyn
IMG_0212

Llun o’r archif o eira ym Methesda

Gydag eira wedi disgyn eto dros nos mae rhai ysgolion ar gau heddiw.

Mae ysgolion yn rhoi gwybod i deuluoedd yn uniongyrchol am unrhyw newid i’r drefn arferol.

O ran plant yr ardal, mae Ysgol Dyffryn Ogwen ar gau a hynny am nad ydi’r safle yn ddiogel gan nodi y bydd gwaith i’r plant trwy drefniadau ar-lein.

Mae Ysgol Tryfan, Bangor hefyd ar gau heddiw (18 Ionawr).

Bydd y llyfrgell ym Methesda hefyd ar gau heddiw oherwydd yr eira.