Prysurdeb Cludiant Cymunedol

Dyffryn Caredig wrthi’n brysur dros yr haf

gan Huw Davies

Gyda’r dyddiau wedi ymestyn a rhywfaint o dywydd braf mae’r rhan yma o waith Partneriaeth Ogwen wedi bod yn gwneud cryn dipyn gyda thrigolion lleol.

Cafwyd tair sesiwn Beics a Sgwtera yn Llys Dafydd, Clwb Rygbi Bethesda, a Talybont a Thregarth. Yn ogystal â hynny cafwyd digwyddiad Hwyl Haf Beics – diwrnod llawn hwyl ar gaeau Dol Dafydd. Diolch yn fawr i Elusen Ogwen am noddi ac i’r Clwb Rygbi am y croeso!

Braf hefyd yw gweld trigolion lleol ac ymwelwyr yn hurio beics trydan ar gyfer teithio o gwmpas yr ardal – mae sawl un yn nodi fel cael hwb gan y trydan yn help garw wrth ddringo’r elltydd bob ochr i’r Dyffryn.

Mae’r gwaith trwsio’n mynd rhagddo’n dda yn y gweithdy hefyd. Cysylltwch â Kyle os rydych eisiau cyngor neu trwsio’ch beic – beics@ogwen.org 07492335170

Mae’r cerbydau trydan hefyd wedi bod yn brysur gyda Dewi, Colin ac Evan yn mynd a dŵad o gwmpas y lle. Mae hyn y cynnwys cludiant ar gyfer apwyntiadau, cludo cymdeithasau lleol, ciniawau poeth Caffi Coed y Brenin a theithiau penwythnos. Y nesaf o’r rhain fydd Taith Ddirgel dydd Sadwrn Awst 24ain. Tybed lle awn ni…?

Dweud eich dweud