Ar fore sych a braf yn ddiweddar, ’roedd prysurdeb mawr yng Nghanolfan Cefnfaes beth cynta’ wrth i ddau ddwsin a mwy o geir trydan ymweld â’r Dyffryn.
Pam felly medda chi? Wel, ’roedd Partneriaeth Ogwen yn ddigon ffodus i gael enwebiad fel man archwilio (neu ‘checkpoint’ chwedl y trefnwyr) ar gyfer fflyd o gerbydau oedd wedi trafeilio’i fyny o Gaerdydd ar y dydd Mercher ac a oedd yn dychwelyd i Bort Talbot ar y dydd Iau.
Yn eu mysg oedd Kevin Booker – deilydd record byd Guinness am y pellter hiraf o yrru cerbyd trydan cyn gwefru a Chris a Julie Ramsey – anturiaethwyr sydd wedi teithio o begwn i begwn yn eu car trydan.
Pwrpas y rali oedd i dynnu sylw at y ffaith fod defnydd ceir trydan a hydrogen ar gynnydd a bod cwmpas (range) cerbydau’n gwella gyda datblygiadau newydd.
Cafwyd cyfle i drin a thrafod y cerbydau ddaru alw – Maxus newydd ar gyfer 8 person, cerbyd gyriant pedwar olwyn cyntaf y Grid Cenedlaethol yn ogystal â cherbydau’r Bartneriaeth.
Meddai Huw Davies, Rheolwr y Dyffryn Caredig: “Roedd yn wych gweld cymaint o gerbydau’n galw efo ni er mwyn codi ymwybyddiaeth o deithio di-allbwn a be mae cymunedau’n medru wneud i chwarae’u rhan yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.”
Roedd cryn ddiddordeb yn sustem paneli solar a storfa batri Cefnfaes – cynllun a ddatblygwyd mewn cydweithrediad gydag Ynni Ogwen ac sy’n golygu fod pedwar cerbyd trydan yn gallu gwefru ar yr un pryd.
Dywedodd Donna Watts, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen: “Ryda ni’n falch iawn o’r cyfle i hwn i arddangos adnoddau’r Bartneriaeth ac yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am y cyfle’i gymryd rhan.
“‘Roedd yn wych gweld a chlywed disgyblion Ysgol Dyffryn Ogwen yn holi Kevin, Chris a Julie ac yn gyfle i drafod yr hyn sydd wedi digwydd hyd yn hyn a datblygiadau ar gyfer y dyfodol – edrychwn ymlaen at groesawu’r Rali’n ôl yn 2025!”