Paneli acwstig arbennig Ystafell Gymunedol Canolfan Cefnfaes

Mae Partneriaeth Ogwen yn falch i roi llwyfan i ffotograffwyr lleol

Robyn Morgan Meredydd
gan Robyn Morgan Meredydd

Bydd llawer ohonoch wedi defnyddio’r Ystafell Gymunedol newydd yng Nghanolfan Cefnfaes erbyn hyn.

Er ein bod wedi bod yn falch iawn o groesawu grwpiau cymunedol i’r cyfleusterau newydd, fe wnaethom sylwi fod cadw’r nodweddion pensaernïol gwreiddiol, fel y nenfydau uchel, yn creu adlais ac yn ei gwneud yn anodd i glywed sgyrsiau.

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi gallu sicrhau cyllid i atal sain y gofod – a hynny gyda phaneli acwstig arbennig iawn.

Mae Clwb Camera Dyffryn Ogwen wedi gweithio gyda ni i ddewis delweddau a dynnwyd gan aelodau’r clwb ar gyfer paneli celf arbennig i arddangos cymeriad Dyffryn Ogwen yn yr ystafell.

Dywedodd Nigel Beidas o Glwb Camera Dyffryn Ogwen, “Roedd y clwb yn falch iawn o gael cais i ddarparu lluniau ar gyfer y paneli acwstig.

“Gofynnwyd i aelodau’r clwb anfon lluniau a oedd yn adlewyrchu Dyffryn Ogwen a chyflwynwyd dros 40 o gynigion. O blith y rhain, anfonwyd rhestr fer o 10 i’w hystyried gan Bartneriaeth Ogwen.

“Llongyfarchiadau i’r ffotograffwyr a dynnodd y lluniau a gafodd eu dewis, gan gynnwys Emyr Roberts a Nick Pipe.”

Meddai Robyn Meredydd o Bartneriaeth Ogwen: “Diolch yn fawr i Nigel Beidas o Glwb Camera Dyffryn Ogwen a’r holl aelodau a gymerodd ran.

“Roeddem yn chwilio am luniau oedd yn arddangos golygfeydd a threftadaeth unigryw Dyffryn Ogwen. Mae’n gyfle gwirioneddol i roi llwyfan i ffotograffwyr lleol dawnus, ynghyd a gwella’r adnodd cymunedol a’i gwneud yn lleoliad lle bydd pawb yn gallu mwynhau sgwrs tra’n mwynhau’r lluniau arbennig.”

Mae Canolfan Cefnfaes ar gael i’w rhentu ar gyfer cyfarfodydd, digwyddiadau, gweithdai a mwy. Cymerwch olwg ar ein tudalen archebu yma neu cysylltwch â gofod@ogwen.org am fwy o wybodaeth.

Dweud eich dweud