Mentora Marchnata a Cardiau Busnes Eco-Caredig

Dim ond 3 mis ar ôl i fanteisio o wasanaeth mentora marchnata Partneriaeth Ogwen

Abbie Jones
gan Abbie Jones
Cardyn Busnes PO

Dim ond 3 mis sydd ar ôl i chi gymryd mantais o’n gwasanaeth mentora marchnata am ddim.

Gyda phob sesiwn mentora, bydd ein mentor, Abbie hefyd yn gallu creu cerdyn busnes eco-garedig i chi. I leihau gwastraff papur, beth am i chi feddwl am gael cerdyn busnes pren sydd yn parhau?

Yn hytrach na rhannu’ch cardiau, gadewch i bobl sganio’r cod QR i lawrlwytho eich manylion cyswllt, yn cynnwys dolenni i’ch gwefan â sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Os ydych eisiau bwcio sesiwn mentora gyda Abbie, e-bostiwch marchnata@ogwen.org.

Ariennir y gwasanaeth hwn gan Fwrlwm Arfor.

Dweud eich dweud