Llyfrgell y Petha Dyffryn Ogwen ar agor nawr!

Ydych chi’n edrych am ffordd i gadw’r plant yn brysur am ddim dros yr haf?

Abbie Jones
gan Abbie Jones
Cwch
Truck
Gemau
Buwch

Mae Llyfrgell y Petha ar agor! Os ydych chi’n chwilio am ffordd i gadw’r plant yn brysur am ddim dros yr haf, gallwch fenthyg teganau a phecynnau crefft o Lyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen!

Mae Partneriaeth Ogwen wedi bod yn gweithio gyda Llyfrgelloedd Gwynedd a Benthyg Cymru i ddarparu’r gwasanaeth yn effeithlon.

Cawsom 98 benthyciad rhwng Ebrill a Medi 2023, gyda 34.7% o hyn yn ddillad. Wnewch chi helpu arbed carbon y flwyddyn yma trwy ddewis i fenthyg yn hytrach na prynu teganau â mwy?

Sut mae’n gweithio? 

  • Crëwch gyfrif gyda Petha a phori trwy ein catalog ar petha.myturn.com.
  • Archebwch eitemau hoffwch eu benthyg.
  • Casglwch yr eitemau o Lyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen, Ffordd Coetmor, Bethesda, LL57 3NL.

Archebu nawr – https://petha.myturn.com/library/

Beth sydd ar gael? 

  • Buckaroo!
  • Bwa Croes Nerf Minecraft
  • Bwrdd Chess
  • Dungeons & Dragons
  • Gwn Dŵr
  • Uno
  • Swingball

A llawer, llawer mwy!

Arbed arian, arbed lle, arbed carbon.

Dweud eich dweud