Llais Ogwan yn dathlu’r 50

Mae arddangosfa a chinio dathlu yn cael eu cynnal i nodi hanner can mlwyddiant sefydlu ein papur bro

Carwyn
gan Carwyn

Llais Ogwan Mai 2020Wyddoch chi fod yna 556 o rifynnau o bapur bro Llais Ogwan ers ei gyhoeddi gyntaf yn Hydref 1974?

Bydd rhifyn 557 felly yn dathlu hanner can mlwyddiant y papur a sefydlwyd trwy lafur cariad criw bychan selog a oedd yn benderfynol o sicrhau deunydd darllen Cymraeg i bobl yr ardal.

Mae yna lu o wirfoddolwyr wedi bod ynghlwm efo’r gwaith o gynhyrchu’r holl rifynnau dros y blynyddoedd, yn ohebwyr lleol sydd wedi cyfrannu’r pytiau o’r pentrefi sydd yn cyfoethogi tudalennau’r papur. Mae’r gwaith o drefnu hysbysebion hefyd yn hynod bwysig wrth gwrs, a diolch hefyd i’r cwmnïau lleol sy’n cefnogi’r Llais drwy hysbysebu’n rheolaidd.

Dros y blynyddoedd, mae criw diwyd o ddosbarthwyr wedi bod yn gwerthu a rhannu rhifynnau ar draws ein cymunedau, ynghyd a swyddogion yn trefnu’r Llais drwy’r post hefyd. Wrth gwrs, swyddogion a phanel golygyddol hefyd yn cyfrannu i sicrhau fod y papur yn cyrraedd y darllenwyr bob mis.

Mae gormod i restru yma, ond mae arddangosfa arbennig wedi ei threfnu at ddiwedd y mis a fydd yn gyfle i fwrw golwg nôl ar hen rifynnau ac uchafbwyntiau a chofio am rai sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig yn hanes Llais Ogwan. Bydd croeso cynnes i chi draw yn yr arddangosfa a fydd yn cael ei chynnal yn Neuadd Ogwen o 22 tan 26 Hydref (10am-4pm), gyda mynediad am ddim.

Hefyd fel coron ar y cyfan, mae noson o ddathlu yng Nghlwb Rygbi Bethesda ar nos Wener, 25 Hydref. Bydd bwffe ar gael ac adloniant gan Lleucu Gwawr – mynediad trwy docyn yn unig. Pris o £5. Tocynnau ar gael o’r Clwb Rygbi ac o Siop Ogwen, neu gan Neville (01248 699658) a Walter (01248 601167).

Dweud eich dweud