Hel Hanes Gerlan

Cyfle i gymuned Gerlan ddod at ei gilydd i hel atgofion a rhannu straeon!

Robyn Morgan Meredydd
gan Robyn Morgan Meredydd

Mae Pwyllgor Caban Gerlan a Phartneriaeth Ogwen yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i Gaban Gerlan heno o 4 tan 7 a bore fory o 10 tan 12:30 i rannu lluniau a straeon am yr ardal.

Dewch draw am banad a sgwrs a dewch ag unrhyw luniau neu straeon sydd gennych am yr ardal gyda chi.

Bydd Lleisiau Lleol wrth law i sganio a chofnodi cyfraniadau i’w huwchlwytho i Gasgliad y Werin, lle byddant ar gael i’w gweld yn yr oriel ar-lein.

Fyddan ni’n diweddaru’r blog yma i drafod y digwyddiad a rhannu amball llun a stori.

Gobeithio eich gweld chi heno neu fore fory!

16:22

Diolch i Siân Gwenllïan am alw draw i drafod y prosiect a chynlluniau ar gyfer Caban Gerlan.

15:47

Mae’r Caban yn dechrau siapio! Galwch draw o 4 tan 7!

14:26

Bydd Lleisiau Lleol wrth law i helpu i gasglu’r straeon a’r atgofion lle bo modd. Bydd y straeon a’r lluniau hyn yn cael eu huwchlwytho i Gasgliad y Werin – adnodd ar-lein a gynhelir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Gallwch weld y casgliad yma.