Yn dilyn penderfyniad cwmni Arriva i ddileu eu gwasanaeth 67G o’r Gerlan o Ionawr 7fed aeth tîm Dyffryn Caredig Partneriaeth Ogwen ati i gynnal cyfarfod i geisio barn y trigolion ar drefniadau amgen.
Daeth bron i 40 o bobl ynghyd i Gaban Gerlan ar ddiwedd p’nawn/noson aeafol. Roedd hynny, mae’n debyg, yn arwydd o’r angen a’r teimladau cryfion am wasanaeth pwysig i’r trigolion.
Meddai Huw Davies, Rheolwr Dyffryn Caredig: “Roedda ni wedi bod mewn trafodaethau gyda Chyngor Gwynedd a’n Cynghorwyr Sir ac yn gwybod fod yna sawl un yn y Gerlan yn poeni am y gwasanaeth yn dod i ben.
“Mi roedd sawl unigolyn a theuluoedd yn dibynnu ar y bws hwnnw er mwyn mynd i’w gwaith ar gyfer mynd lawr i’r Stryd Fawr i wneud neges, mynd i’r feddygfa a’r fferyllfa ac i lawr i Fangor.”
Yr hyn ddeilliodd o’r cyfarfod oedd sefydlu gwasanaeth bws cyswllt o’r Gerlan lawr i Adwy’r Nant ac i’r Stryd Fawr gan ddefnyddio bws drydan Partneriaeth Ogwen.
Dechreuodd y gwasanaeth ar Ionawr 8fed a bydd yn rhedeg Llun – Gwener. Bydd dwy fws yn y bore, ar gyfer rheini sydd eisiau dal bws Arriva 67L i Fangor a dwy ar ddiwedd p’nawn ar gyfer pobl sy’n dychwelyd o Fangor neu eisiau cludiant i fyny’r allt gyda’u neges ac ati.
Cynllun peilot am fis yn y lle cyntaf yw’r gwasanaeth hwn er mwyn adnabod y galw am y gwasanaeth a bydd cost o £1.50 ar gyfer pob taith.
Bydd angen cadw lle ymlaen llaw ar gyfer teithio ar y bws (drwy cludiant@ogwen.org/07394906036) a bydd cyfarfod arall ddechrau Chwefror er mwyn derbyn adborth gan y gymuned. Cysylltwch â Huw a Menna o’r tîm am fwy o wybodaeth.