Ers diwedd 2023 mae’r Bartneriaeth wedi bod yn cynnig gwasanaethau mentora i fusnesau bach, lleol.
Mae’r gwasanaeth marchnata yn cael ei weithredu gan Abbie Jones sydd efo dros 3 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes y cyfryngau cymdeithasol, ac sydd wrthi’n astudio marchnata digidol lefel 6 trwy CIM a Choleg Llandrillo. Mae hi wedi’ ddisgrifio fel “proper little marketing geek” gan un o’i chwsmeriaid mentora!
Mae Lliwen hefyd wrthi’n astudio cwrs cyllid i ehangu ei sgiliau rhifedd.
“Mae’r gwasanaeth rydym wedi ei dderbyn gan Lliwen Morris, Partneriaeth Ogwen wedi bod yn arbennig ac effeithiol iawn,” meddai un o gwsmeriaid Lliwen.
“Mae Lliwen yn hawdd cyfathrebu ag ac mae n ceisio ymateb yn syth ac yn glir. Mae’r fantolen yn hawdd i’w ddeall ac mae’r eglurhad o’r cyflog a threth yn glir iawn. Pleser yw cyd-weithio gyda Phartneriaeth Ogwen.” –
Yn o gystal â’r sesiynau mentora, mae’r ddwy yn gallu cynnig gwasanaethau erill megis gwasanaeth MailChimp misol neu chwarterol a hyfforddiant ar y ddelwedd dylunio Canva gan Abbie.
Cysylltwch i drefnu eich sesiwn mentora cyntaf am ddim gyda Abbie a/neu Lliwen.
Marchnata – marchnata@ogwen.org
Cyllid – lliwen@ogwen.org
Ariennir y wasanaeth hwn gan Bwrlwm Arfor.