Gwaith Rhiannon Gwyn yn serennu yn yr Amgueddfa Lechi 

Arddangosfa unigol cynta’r artist o Sling

Carwyn
gan Carwyn

Mae gwaith rhyfeddol yr artist lleol Rhiannon Gwyn yn ganolbwynt i arddangosfa ddiweddaraf yn Amgueddfa Llechi Cymru yn Llanberis.

Mae Rhiannon, o Sling, wedi datblygu techneg arloesol o doddi a siapio llechi Cymreig.

Mae’r llechen wedi’i doddi yn cael ei harddangos gyda bowlenni ceramig wedi’u gwneud â llaw, pob un wedi’i baentio â gwydredd wedi’i wneud o ddeunyddiau naturiol fel y mae hi’n esbonio:

“Drwy weithio a deunyddiau lleol – y rhan fwyaf ohonynt yn sgil-gynhyrchion o brosesau gan ddiwydiannau a sefydliadu lleol, megis llechi Cymreig sy’n wastraff o’r chwarel leol, lludw eithin o waith clirio Parc Cenedlaethol Eryri ar Foel Faban a chlai o lannau afonydd cyfagos – mae’n archwilio sut y gall deunyddiau gyfleu hunaniaeth drwy ddylanwadu ar y ffordd rydym yn gweld ein hunain a’r byd o’n cwmpas drwy drosglwyddo emosiwn ar ein hamgylchedd.”

Mae ei gwaith celf a’i chrefft gyda’r deunyddiau wedi cael eu cydnabod gan Amgueddfa Cymru sydd wedi ei gaffael un o’i gweithiau sef  ‘Y Nefoedd yn Toddi i’r Tir’ – ar ôl iddo gael ei arddangos y llynedd yn eu harddangosfa ‘Rheolau Gelf’ ac yn arddangosfa ‘Y Lle Celf’ Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Mae Rhiannon hefyd wedi ennill gwobr Gwneuthurwr Newydd yn yr Ŵyl Serameg Ryngwladol yn Aberystwyth, wedi cael eu dewis ar gyfer ‘Rhaglen Datblygu Talent Biennial’ Cerameg Prydain ac wedi derbyn cyllid gan ‘Celfyddydau Rhyngwladol Cymru’ i fynd ar daith ymchwil i’r Unol Daleithiau.

Mae ‘Haenau’ yn arddangos y gwaith a gynhyrchwyd fel rhan o brosiect ymchwil a datblygu Rhiannon a ariennir gan gronfa ‘Creu’ Cyngor Celfyddydau Cymru.

Cafwyd cefnogaeth hefyd gan Ganolfan Grefft Rhuthun, Parc Cenedlaethol Eryri, Partneriaeth Tirwedd y Carneddau a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ariannwyd y ffilm yn yr arddangosfa gan Barc Cenedlaethol Eryri.

Mae’r arddangosfa i’w weld yn yr amgueddfa tan 1 Tachwedd. Mynediad am ddim.