Glywsoch chi’r ddaear yn symud?

Bethesda yn ganolbwynt i ddaeargryn bychan

Carwyn
gan Carwyn

Mae’n amlwg o gyfryngau cymdeithasol fod nifer o drigolion yr ardal wedi clywed effeithau daeargryn bychan dros nos.

Yn ôl yr arbenigwyr, Bethesda oedd canolbwynt y daeargryn oedd yn mesur 1.3 ar gyfradd Richter.

Daeargryn gweddol fychan mae’n debyg, ond fe fu’n ddigon i ddeffro sawl un yn yr ardal.

Mae’n amlwg fod yna nifer o rai sy’n hwyr yn mynd am y ciando neu’n gysgwyr sâl yn lleol. Diolch nad oedd hi’n ddaeargryn mwy ac nad oes yna ddifrod wedi ei adrodd.