Pwy fydd teulu brenhinol Carnifal 2024?

Ceisiadau ar agor gan carnifal Bethesda tan 26 Chwefror

Carwyn
gan Carwyn

Gyda 2024 yn bwrw ymlaen ar wib, mae’r paratoadau ar gyfer Carnifal Bethesda eleni hefyd yn dod yn eu blaenau’n dda.

Arwydd clir o hynny ydi’r ffaith fod y pwyllgor wedi agor ceisiadau ar gyfer teulu brenhinol 2024.

Mae sawl rôl ar gael – Brenhines a Brenin ar gyfer plant oed cynradd (blynyddoedd 3-6), a Thywysog a Thywysoges (plant cynradd (oed derbyn  i flwyddyn 2). Mae’r pwyllgor hefyd yn chwilio am geisiadau llysgennad gan ddisgyblion oed uwchradd (blynyddoedd 7 i 11) a fydd yn gyfle i gynrychioli lleisiau Dyffryn Ogwen i geisio taclo rhwystrau’n lleol.

Felly, os oes gennych chi neu aelod o’r teulu ddiddordeb bod yn rhan, mi fyddai Pwyllgor Carnifal Bethesda yn falch iawn o dderbyn eich cais. Bydd gofyn cwblhau ffurflen gais (ar gael ar dudalen Facebook y Carnifal). Gellir cyflwyno drwy negeseuon Facebook, neu drwy e-bostio carnifalbethesda@gmail.com

Mi fydd copïau papur o’r ffurflenni cais, sy’n cynnwys manylion am bob rôl ar gael o Swyddfa Partneriaeth Ogwen ac ysgolion y dalgylch.

Cofiwch gyflwyno eich cais erbyn y dyddiad cau: 26/02/2024.