Dysgu sgiliau newydd yn y Gofod Gwneud

Y cyntaf o weithdai mis Medi – mwy i ddod!

Robyn Morgan Meredydd
gan Robyn Morgan Meredydd

Cafodd y sesiwn cyntaf mewn cyfres o weithdai eu cynnal yn y Gofod Gwneud yng Nghanolfan Cefnfaes, Bethesda ar nos Iau.

Diolch yn fawr i Jo Hinchliffe am weithdy gwych yn dysgu hanfodion sodro. Roedd yn braf cael cymaint o bobl draw yno.

Bydd Jo yn ôl ar 19 Medi o 6.30pm tan 8.30pm gyda gweithdy rhad ac am ddim arall yn edrych ar greu “vacuum former” i siapio plastig dros fowldiau.

Yn y gweithdy yna, bydd pawb yn cael “former” i fynd adref gyda nhw i’w defnyddio efo sugnwr llwch eu cartref. Bydd Jo hefyd yn trafod prosiectau eraill yn ymwneud ag ailgylchu ac ailddefnyddio plastig. Cysylltwch â gofod@ogwen.org i gadw eich lle.

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am y prosiect hwn, dyma ddolen i flog Jo.

Dweud eich dweud