Dyffryn Caredig a Chymdeithas Eryri’n cydweithio

Beics trydan yn cefnogi gwaith amgylcheddol

gan Huw Davies

Er fod y tywydd wedi bod yn arw iawn yn ddiweddar bwriodd Beics Ogwen ati i drefnu taith ar gyfer y Gymdeithas ddydd Sadwrn, 27 Ionawr.

Gyda’r amodau’n ffafriol daeth criw o wyth o aelodau Cymdeithas Eryri at ei gilydd dan arweiniad Cai Bishop-Guest er mwyn reidio’r beics trydan o Gefnfaes, ar hyd Lôn Las Ogwen i fyny i Ben Llyn Ogwen.

‘Roedd y grŵp yn cynnwys trawsdoriad rhan oedran a phrofiad reidio ond ’roedd defnyddio’r beiciau trydan yn hwyluso’r daith ar gyfer pawb – yn enwedig y clip serth heibio Fferm Blaen y Nant! ‘Roedd yna ddipyn o waith ar y tamaid olaf ond wedi cyrraedd y maes parcio cafwyd hoe a chinio cyn cerdded gyda Cai am daith o gwmpas Cwm Idwal.

Wedi dychwelyd nôl at y beics cafwyd reid hamddenol nol lawr y Dyffryn i ddychwelyd y beics. ‘Roedd y criw wedi mwynhau’n arw a beryg fydd ambell un rwan yn meddwl am feic newydd (trydan!) ar gyfer y gwanwyn!

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am gludiant cymunedol Partneriaeth Ogwen neu llogi beics trydan cysylltwch a cludiant@ogwen.org 07394906036