Diwrnod Beicio i’r Gwaith, Ebrill 12fed

Ydych chi’n beicio i’r gwaith, neu yn ystyried dechrau?

gan Gwyneth Jones

Ydych chi’n beicio i’r gwaith, neu yn ystyried dechrau?

Mae Partneriaeth Ogwen yn trefnu Diwrnod Beicio i’r Gwaith gyda GwyrddNi, ar ddydd Gwener Ebrill y 12fed, lle rydym wedi trefnu teithiau beicio tywys o Fynydd Llandygai a Bethesda i Fangor a Porthaethwy!

Os nad ydych yn teimlo’n hyderus am ba ffordd i feicio, dyma’r cyfle perffaith i chi gael dysgu am y ffordd orau i fynd ac i gyfarfod pobl eraill sydd gyda diddordeb.

Mae Margot, un o arweinwyr y daith ar y 12fed, yn cymudo o Fangor i Borthaethwy ar ei beic, yn llosgi 667 calori ac arbed 4kg o CO2.

“Dwi’n cymudo ar feic, ac rydw i wrth fy modd,” meddai Margot.

“Rwy’n cyrraedd y gwaith gyda phen ffres, ac ar ôl gwaith dwi’n cael dôs dda o awyr iach eto cyn cyrraedd adref a chael swper.

“Y ffordd yma, dwi’n cael fy ymarfer corff heb orfod meddwl amdano. Ac mae’r llwybr yn brydferth!

“Mae hefyd yn wych i’r blaned. Ac mae’n rhatach, a does dim rhaid i mi boeni byth am barcio. Beth sydd ddim i’w hoffi?”

Mae Diwrnod Beicio i’r Gwaith yn rhan o waith ehangach Partneriaeth Ogwen, sydd yn hybu teithio gwyrdd a teithio actif gan gynnwys llogi a trwsio beics drwy Beics Ogwen, a GwyrddNi, mudiad gweithredu hinsawdd gymunedol sydd yn gweithredu mewn pum ardal yng Ngwynedd, yn cynnwys Dyffryn Ogwen.

Am fwy o fanylion ac i ymuno a ni, cysylltwch â chris@ogwen.org.

Dweud eich dweud