Diolch ar ddiwedd cyfnod Y Mabinogion

Y siop sglodion boblogaidd yn cau

Carwyn
gan Carwyn
IMG_1762-1

Eirian a’r genod (llun o wefan Partneriaeth Ogwen)

Yr wythnos yma daeth y newyddion trist gan Eirian Williams fod siop sglodion “Y Mabinogion” yn cau.

Yn gwasanaethu Dyffryn Ogwen a’r cyffiniau ers blynyddoedd lawer, mae Eirian a’r staff wedi cynnig bwyd blasus a chroeso Cymreig i genedlaethau a diolch iddi am hynny.

Calon drom

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol y daeth y newyddion gan Eirian. Yn ei ffordd ddiymhongar, ymddiheuro i’w chwsmeriaid wnaeth Eirian am y penderfyniad anodd.

“Ma’ ddrwg iawn gan fi ond efo calon trist heno fydd y mabinogs ddim yn gorad eto.

“Ma’ afiechyd wedi dal fyny efo fi, dwi angen diolch o galon i cwsmeriaid i gyd am y cefnogaeth dros yr holl flynyddoedd. Dyddia hapus a difyr.

“Ma ddrwg iawn gan fi adal cwsmeriaid i lawr. Dwi yn ymddiheuro am hynny – diolch o galon pawb.”

Diolch

Mae’r doreth o negeseuon yn diolch a dymuno’r gorau i Eirian yn ymateb i’r cyhoeddiad yn dyst i bwysigrwydd “Y Mabinogion” i bobl yr ardal.

Un o’r rheini ydi Keith Williams, Tafarn y Bull sydd wedi sefydlu casgliad ymddeoliad i ddiolch i Eirian.

“Mae diwedd cyfnod wedi dod i Eirian yn y Mabinogion, shop chips gora a welodd Bethesda, a seren o berchennog ydi Eirian,” meddai.

“Mae Eirian yn ddynas tu hwnt o ffeind, pob tro yn rhoi pawb arall yn gyntaf, cwsmeriaid, teulu, ffrindiau. Eirian ydi y cyntaf i gyfrannu yn hael at elusennau a digwyddiadau lleol, ac wrth ei bodd yn cael rhoi a helpu.

“Mae ein diolch fel pentref yn fawr iawn i Eirian, am ei gwasanaeth a’i charedigrwydd ar hyd y blynyddoedd.

“Felly fel llawer un arall ‘da ni yn teimlo ei bod yn amser i ddiolch o galon, a cael talu yn ôl, ac ysgafnu y faich ar yr amser caled yma, ac yn dymuno pob lwc a gwellhad buan iawn i Eirian Mabinogs.”

I gyfrannu at y casgliad ewch i’r wefan yma