Diogelu coeden 500 oed ym Mharc Meurig

Cyfle i drafod efo swyddogion bioamrywiaeth y Cyngor ar 10 Chwefror

Carwyn
gan Carwyn

Mae sesiwn rhannu gwybodaeth a thrafod yn cael ei gynnal ym Mharc Meurig, Bethesda i drafod sut y gellir gwarchod coeden dderw sy’n dyddio’n ôl i’r 16eg ganrif.

Bydd y sesiwn anffurfiol galw heibio yn y parc ar ddydd Sadwrn, 10 Chwefror rhwng 11am ac 1pm yn gyfle i drigolion holi swyddogion Cyngor Gwynedd. Fe gafodd y digwyddiad ei ail-drefnu oherwydd rhagolygon tywydd garw ar gyfer 20 Ionawr.

Mae’n fwriad gan y Cyngor i geisio achub coeden hynafol a hanesyddol yn y parc cyhoeddus ym Methesda, a hynny fel rhan o becyn ehangach o fuddsoddiad yn yr adnoddau amgylcheddol a chymunedol lleol.

Dyddio’n ôl ganrifoedd

Saif y dderwen sy’n ganrifoedd oed ym Mharc Meurig. Fel rhan o waith ehangach i uwchraddio’r adnoddau yn y parc, mae swyddogion Bioamrywiaeth wedi canfod fod y goeden mewn cyflwr gwael iawn ac y gallai achosi perygl i’r cyhoedd.

Er mwyn amddiffyn hirhoedledd y goeden, a sicrhau iechyd a diogelwch pawb sy’n defnyddio’r ardal i ymlacio a chymdeithasu, mae’r Cyngor yn bwriadu codi ffens o amgylch y dderwen, gyda rhan o’r canopi yn cael ei dorri yn ôl.

Eglurodd Jack Walmsley, Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd: “Yn ystod archwiliadau cychwynnol o’r holl goed yn Parc Meurig, daeth yn amlwg i ni fod rhan fawr o foncyff y goeden hynafol hon wedi pydru.

“Yn dilyn archwiliadau mwy manwl gan arbenigwr allanol, canfuwyd fod ffwng wedi heintio’r goeden a fod y pydredd yn ymledu drwy ei strwythur a gall achosi mwy o niwed difrifol i’r boncyff.

“Golygai hyn fod posibilrwydd real i’r canghennau ddod lawr – yn enwedig ar dywydd gwyntog a gaeafol – gan achosi niwed neu anaf.

“Rydan ni wedi bod yn siarad â nifer fawr o bobl leol ac mae pawb yn deall difrifoldeb y sefyllfa. Rydan ni’n tybio fod y goeden brydferth hon yn dyddio’n ôl hyd at 500 mlynedd a does neb eisiau gweld ei cholli na chwaith gweld unrhyw un yn cael eu brifo gan ganghennau yn disgyn.”

Diogelu

Bydd gwaith yn digwydd i osod ffens o gwmpas y goeden i atal neb rhag cerdded yn uniongyrchol o dan y canopi. Yn ogystal, bydd gwaith yn cael ei gynnal i dorri rhannau o’r goeden er mwyn lleihau’r canopi, fydd yn rhoi gwell siawns iddi oroesi.

“Mae Parc Meurig yn adnodd cymunedol bwysig i Ddyffryn Ogwen. Mae gan yr ardal gysylltiadau â Llyfr Mawr y Plant – sydd wrth gwrs yn arwyddocaol iawn i ddiwylliant Cymru – a mae’n siŵr fod cenedlaethau o blant wedi dychmygu Siôn Blewyn Coch a Siân Slei Bach yn byw yma dan ganghennau coed derw Parc Meurig,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd.

“Mae archwiliadau ein swyddogion wedi datgelu cyflwr bregus y goeden ac mae gwaith manwl wedi ei gynnal i weld beth ellir ei wneud i gael y cydbwysedd cywir rhwng diogelu’r cyhoedd, diogelu’r goeden a diogelu cynefinoedd bywyd gwyllt. Nid ydym yn cymryd unrhyw benderfyniad yn ysgafn ac yn sicr ni fydd y goeden yn cael ei thorri i lawr.

“Mae’n bwysig cofio fod hwn yn barc poblogaidd iawn. Mae llwybr troed prysur yn pasio o dan canghennau’r goeden ac mae llawer o blant yn dod yma i chwarae felly mae’n hynod bwysig ein bod yn gwneud popeth posib i ddiogelu unrhyw un sy’n ymweld.”

Daeth y sefyllfa i’r amlwg yn ystod prosiect i wella Parc Meurig, gan gynnwys plannu coed cynhenid, clirio rhywogaethau ymledol, gosod meinciau ac adnoddau hamdden eraill, trwsio’r waliau cerrig o gwmpas terfyn y parc a gwneud gwell defnydd o’r hen gwrt tennis. Bydd y gwaith hwn yn parhau er gwaetha’r sefyllfa sydd wedi codi gyda’r goeden.

Bydd swyddogion bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd ar gael i siarad yn ystod sesiwn anffurfiol ym Mharc Meurig ar ddydd Sadwrn, 10 Chwefror 2024 rhwng 11am a 1pm. Os oes aelodau o’r cyhoedd â diddordeb yn y mater ond ddim yn gallu mynychu, mae modd anfon cwestiynau am y sefyllfa at coed@gwynedd.llyw.cymru