Dathlu 150 mlynedd ers ffurfio Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru

Mae Amgueddfa Llechi’n cynnal gweithdai cyhoeddus ym Methesda fel rhan o ddathliad

Robyn Morgan Meredydd
gan Robyn Morgan Meredydd

A wyddoch chi ei bod hi’n 150 mlynedd ers ffurfio Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru – a sefydlwyd ar 27 Ebrill yn 1874 i helpu i ddiogelu hawliau ac amodau gwaith chwarelwyr llechi?

Mae chwifio ac arddangos baneri mewn digwyddiadau undebau llafur bob amser wedi bod yn ffordd bwysig o gynrychioli a denu sylw – ac rydym angen eich help i greu baner gydweithredol a fydd yn cael ei chario o’r Amgueddfa Lechi at Graig yr Undeb yn ystod digwyddiad dathlu’r pen-blwydd arbennig yma ar 27ain Ebrill.

Bydd y gweithdai creu baner ar:

19 Ebrill, Dydd Gwener: Canolfan Cefnfaes ym Methesda 1pm – 3pm neu 7pm – 9pm

Dewch i gymryd rhan. Agored i bawb! Am Ddim!

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Chloe Ward: chloe.ward@amgueddfacymru.ac.uk

Dweud eich dweud