Cyllid ar gael i dacluso blaen eiddo gwag

Bethesda yn un o 18 ardal fydd yn elwa o’r cynllun

Carwyn
gan Carwyn
IMG_2013

Mae feinyls fel rhain wedi eu gosod ar rai eiddo gwag yn y gorffennol ar y Stryd Fawr

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi fod cyfle i berchnogion eiddo gwag ym Methesda i gael gosod delweddau trawiadol yn y ffenestri blaen – yn rhad ac am ddim – er mwyn bywiogi edrychiad yr ardal.

Bwriad Rhaglen Canol Trefi’r Cyngor ydi cyfrannu tuag at annog buddsoddiadau i’r ardal, cynyddu balchder yn lleol, a’r weledigaeth hybu bwrlwm canol trefi. Mae’r Cyngor yn nodi y bydd “y cynllun penodol hwn o fewn y rhaglen yn helpu sicrhau fod trigolion, ymwelwyr a defnyddwyr ar draws Gwynedd yn cael profiad cadarnhaol o ymweld â threfi’r sir.”

Mae ‘finyls’ – sef lluniau trawiadol o’r ardal – ar gael heb gost i berchnogion siopau ac adeiladau gweigion eraill o fewn Bethesda a 17 ‘tref’ arall yng Ngwynedd. Y cwbl sydd angen i berchennog yr adeilad ei wneud ydi cysylltu gydag un o swyddogion Adran Economi’r Cyngor am sgwrs, rhoi mynediad i’r eiddo i’w fesur a’i osod a chymryd cyfrifoldeb dros y finyl unwaith y bydd wedi ei osod.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Economi a Chymuned:

“Os ydych chi’n berchen adeilad gwag – efallai hen siop neu swyddfa sydd ddim yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd – yn y trefi sy’n rhan o’r cynllun, byddwn yn eich annog i fanteisio ar y cyfle cyffrous hwn. Rydym i gyd yn gwybod fod delwedd yn bwysig i roi hyder i’n trefi, ac mae hyn yn gyfle da i ychwanegu lliw a llun i’n trefi lleol.

“Unwaith bydd perchennog yn cysylltu efo’r Cyngor, bydd ein swyddogion yn gwirio fod  yr adeilad dan sylw yn cwrdd â’n meini prawf ac os ydi pawb yn cytuno â manylion y cynllun gellir bwrw mlaen efo’r gwaith. Bydd pob  cais ddaw i law yn derbyn ystyriaeth. Ond rhaid nodi, yn ddibynnol ar lefel y diddordeb ac addasrwydd ffenestri’r  eiddo, fod posibilrwydd na fydd pob cais yn llwyddiannus.

“Rydw i’n hynod falch fod Cyngor Gwynedd yn gallu cydweithio â chynghorau tref y sir, aelodau lleol a pherchnogion er mwyn dylunio a gosod finyls sydd â delweddau trawiadol o’r ardal.”

Mae’r cynllun yn weithredol yn y trefi canlynol: Bangor; Caernarfon; Pwllheli; Porthmadog; Bala; Dolgellau; Bethesda; Blaenau Ffestiniog; Bermo; Nefyn; Harlech; Penrhyndeudraeth; Penygroes; Cricieth; Llanberis; Abersoch; Aberdyfi; a Thywyn. I fod yn gymwys, rhaid i’r eiddo fod o fewn ffin canol y dref.

I wneud cais am y cynllun, neu i drafod y cynllun, dylech e-bostio: adfywio@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio: 07764399882 cyn 7 Mehefin, 2024. Mae hwn yn gynllun rhag ac am ddim ac nid oes disgwyl i’r perchennog gyfrannu’n ariannol tuag at greu na gosod y finyls.

Mae’r cynllun hwn yn rhan o Raglen Canol Trefi Cyngor Gwynedd, ac wedi ei ariannu drwy Gronfa Ffyniant Bro y DU.