Cydweithfa – cyfle i logi desg ym Methesda

Gofod cydweithio modern, proffesiynol yng nghanol Dyffryn Ogwen

Robyn Morgan Meredydd
gan Robyn Morgan Meredydd

Mae gwyliau’r haf ar y gorwel unwaith eto, ac i lawer o bobl gyda phlant sy’n gweithio cartref neu hybrid, gall hwn fod yn gyfnod heriol! Os ydych am logi desg mewn amgylchedd gwaith tawel, proffesiynol, beth am roi cynnig ar y Gydweithfa?

Mae’r Gydweithfa yn rhan o Ganolfan Cefnfaes ym Methesda ar ei newydd wedd. Mae’n ofod cydweithio modern, proffesiynol sy’n cynnig desgiau unigol gyda chysylltiadau band eang cyflym i wneud eich diwrnod gwaith mor gynhyrchiol â phosibl.

Yn ogystal, mae gennym gyfleusterau cegin lle gallwch fwynhau te a choffi am ddim a defnyddio’r cyfleusterau yn ôl yr angen.

Mae Partneriaeth Ogwen ac Ynni Ogwen wedi bod yn gweithio i sicrhau bod Canolfan Cefnfaes yn adeilad cynaliadwy – a diolch i gynllun Heuldro a gosod 39.13kWp o baneli solar, ar ddiwrnodau heulog mae’r adeilad bellach yn cael ei gynnal yn gyfan gwbl gan ynni solar.

Gellir prynu tocynnau diwrnod llawn neu hanner diwrnod drwy’r ddolen isod, lle byddwch hefyd yn dod o hyd i’n llawlyfr gyda rhagor o fanylion am amwynderau a pholisïau:

https://partneriaethogwen.simplybook.it

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ddod i weld y gofod, cysylltwch â gofod@ogwen.org.