Creu ynni glân er budd y gymuned

Uchelgais menter gymunedol i gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy

Ynni Ogwen
gan Ynni Ogwen
Logo

Defnyddio asedau naturiol er budd ein hamgylchedd a’n cymunedau.

Mae menter gymunedol Ynni Ogwen eisiau clywed gan berchnogion a defnyddwyr adeiladau cymunedol ac eiddo busnes sydd am gael mynediad at ffynhonnell lân ac effeithlon o drydan fforddiadwy.

Galw heibio

Byddwn yn cynnal sesiwn galw heibio ar ddydd Iau, 23 Mai yng Nghanolfan Cefnfaes, Bethesda rhwng 14:00-19:00 i rannu gwybodaeth ac ateb cwestiynau am ein rhaglen Heuldro. Bydd y dechnoleg solar ddiweddaraf hefyd i’w gweld.

Nodau Heuldro yw cynyddu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy yn lleol a chefnogi defnyddwyr yr adeiladau drwy gyflenwi trydan rhatach a rhoi mwy o sefydlogrwydd pris. Defnyddir contractwyr achrededig o’r Gogledd Orllewin i gyflawni’r gwaith gosod a chynnal y paneli er mwyn uchafu’r budd economaidd yn lleol.

Trydan fforddiadwy

Un sefydliad lleol sydd eisoes wedi elwa o fod yn rhan o raglen Heuldro yw Clwb Rygbi Bethesda.

Yn dilyn llwyddiant y paneli cyntaf a osodwyd ar do’r Clwb yn 2020, gosodwyd paneli ychwanegol ddiwedd mis Mawrth eleni.

Dywedodd llefarydd ar ran y Clwb Rygbi: “Mae Ynni Ogwen yn darparu ffynhonnell amgen, ddibynadwy o drydan fforddiadwy i ni sy’n ein galluogi i leihau ein defnydd o drydan grid drud yn sylweddol.

“Rydym wrth ein bodd eu bod wedi gosod mwy o baneli solar yn ddiweddar ar do’r clwb. Mae’r paneli ychwanegol wedi treblu ein cyflenwad o ynni glân a byddant yn rhoi buddion ariannol parhaus i ni am flynyddoedd lawer i ddod.”

Dywedodd Cadeirydd Ynni Ogwen, Gareth Cemlyn Jones: “Mae gan Ynni Ogwen uchelgais i adeiladu ar lwyddiant rhaglen Heuldro dros y ddwy flynedd nesaf.

“Rydym yn ddiolchgar am gymorth grant gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru sydd wedi ein galluogi i greu swydd Rheolwr Datblygu er mwyn tyfu’r rhaglen yn sylweddol.”

Dechreuodd Dafydd Meurig a Walis George rannu’r swydd o ddiwedd Ionawr. Bydd y ddau ohonynt yn bresennol yn y sesiwn galw heibio ar 23 Mai.

Mae paneli solar gyda chapasiti cynhyrchu o 39.13kW yn cael eu gosod ar hyn o bryd ar do Canolfan Cefnfaes. Hwn yw ein gosodiad unigol mwyaf hyd yma. Bydd yr ynni solar glân yn dechrau llifo yn ystod y dyddiau nesaf.