Cofio Cau Allan 1874 yn Ninorwig

Croeso cynnes i chi at y cleddyf ar Lan Llyn Padarn, Dydd Sul, 23 Mehefin am 3pm

gan Eilian Williams

Canrif a hanner ers y Cau Allan yn Chwarel Dinorwig ym Mehefin 1874 (brwydr gyntaf Undeb y Chwarelwyr), mae gwahoddiad cynnes i bobl ddod ynghyd i gofio’r achlysur.

I ddeud gair neu i gyfrannu mewn ffordd arall neu i fod yn bresennol, gallwch ffonio 07718982732 (Eilian) neu 07500016235 (Elfyn).

COFIO’R GWRHYDRI, COFIO’R MARWOLAETHAU A CHOFIO ‘DDISTADL WERINOS Y SILICOSIS”.

Yn ôl “Canrif y Chwarelwr” gan Emyr Jones, y 18fed o Fehefin, 1874 (150 mlynedd yn ôl) oedd y Dydd Gosod pwysig pan roddwyd y dewis i Chwarelwyr Dinorwig rhwng yr Undeb a’u gwaith.

Yn y dyddiau canlynol , dewisodd 2200 o chwarelwyr yr Undeb ac un ar ddeg i’r gwrthwyneb – siawns bod hwn yn un o dyddiau pwysicaf yn hanes yr ardal?

Ar ddydd Sul, 23 Mehefin (y Dydd cyfleus agosaf) am 3pm ger y Cleddyf ar lan Llyn Padarn mae grŵp wyneplyfr(FB,) “Eryri Wen” yn eich gwahodd i goffau’r Dydd hanesyddol hwn drwy ganu emynau’r chwarelwyr (sef yr emynau a oedd yn ynghlwm a’r cloi allan a’r streiciau):

1 Gwaed y Groes (Ton: Bryn Calfaria)

2 O Arglwydd Dduw Rhagluniaeth”( Babel)

3 Duw Mawr y Rhyfeddodau Maith (Huddersfield)

4 Gwelaf Graig a’m deil i fyny( Sant Garmon)

5 O Fryniau Caersalem

Bob yn ail a’r canu, bydd darllen ar Awdl Lisi Jones, Y Fron “Y Chwarelwr”. Hon oedd y deyrnged orau ’rioed i’r chwarelwyr yn ein llenyddiaeth siawns?

Disgrifia rybelwr ifanc ar gychwyn ei waith, gofal ei fam amdano, a disgrifiad o’i dad yn cael ei ladd, a’r canlyniad:

“Mae’r aelwyd yn cymylu-oer y byd

A rhai bach i’w maethu

Y tylwyth heb benteulu-

Y tad o dan gaead du.

Da ŵr a pharod i’w waith-yn ei fedd

A gweddw fam dan artaith;

Nerthu a hybu’i gobaith

Wna’i serch at deulu o saith.”

Yna disgrifiad y mab yn dychwelyd fel rybelwr:

“Rol dyrnod drom a siomiant

Yn ifanc fel oen ufudd

I’r chwarel a’r rybelwr

I hela, begera am gerryg

Ac ar ei hyntoedd gwybu law grintach

A siom yn yr ymchwil siawns;

Siom yn y clwt sal

Diraen a gwniad ar ei hyd,

A hwn o’i naddu’n chwalu’ n ulw”

Ac ymlaen i ddisgrifio’r creigiwr:

“Y gwr cyhyrog pencampwr clogwyn

A esgyn yn heini ‘i osgo

I’w grefft ar ystlys y graig;

Ar rimyn uwch dibyn, a’i ebill

Hulia dwll i’r pylor

Hen grefft gywrain y graig,”

Yna yr holltwr:

“A daw i’w gweled yr holltwr wedyn

Llunia’r tewder ar gyfer y gofyn;

Adnebydd feflau, rhychau a chrychyn

Hollta’r nwydd afrwydd fel dalen llyfryn”

Ac ymlaen i ddisgrifio clefyd y Llwch:

“Ddistadl werinos y silicosis,

A’u cais i anghofio”u cwyn

Yn rhoi ystyr i’w troeon trwstan

Yn dirymu undonnog drymwaith

Di-ffrwyn eu tafodau ffraeth

Wrth ddyfal ysmalio

A gwamalu, a’r llwch yn gymylau,

Yn grebach afiach ar ysgyfaint,”

“A hwy yn ebyrth hen wybod

Yn wael a hen yn ganol oed”

Bydd croeso i eraill gymryd rhan gyda gair bach neu bennill wrth ffonio 07718982732 (Eilian,) neu 07500016235 (Elfyn).

Bydd Arfon Wyn (y Moniars) yno i’n helpu gyda chân neu ddwy a gair am ei deulu yn y chwarel.

Gobeithiwn y bydd rhai o Gôr Meibion Dyffryn Peris yno i’n helpu hefo’r canu hefyd.

Byddwn yno i gofio:

1. GGwrhydri y chwarelwyr yn y Cau Allan

2 I gofio’r400 a mwy a laddwyd yn y chwarel ac

3 I fynnu coffa da iddynt drwy i’r awdurdodau (Cyngor Gwynedd, Llechi Cymru a’r Pwyllgor Safle Treftadaeth Byd UNESCO) gymryd camau i ddileu’r sarhad o’r dringwyr yn ail-enwi y chwarel hefo enwau gwirion Saesneg.