Clwb Mentergawrch Dyffryn Ogwen

Cyfle cyffrous i bobl ifanc Dyffryn Ogwen!

Robyn Morgan Meredydd
gan Robyn Morgan Meredydd

Mae Partneriaeth Ogwen yn falch gyhoeddi cyfle newydd i bobl ifanc Dyffryn Ogwen. Bydd y Clwb Mentergarwch yn chwilio am aelodau sydd â diddordeb mewn celf, dylunio neu dechnoleg ac eisiau dysgu sut i drawsnewid ei diddordeb mewn i fusnes.

Yn ein 10 sesiwn, bydd aelodau’n cael mentora arbenigol ar ddefnyddio’r Gofod Gwneud i ddylunio a phrofi cynnyrch gydag artistiaid a thechnegwyr lleol.

Byddant hefyd yn cael cyngor busnes sylfaenol gan Syniadau Mawr Cymru a sesiynau Mentoriaid Marchnata Cymunedol a Chyllid i helpu gosod prisiau a brandio eu cynnyrch. Bydd ein haelodau yn cael y cyfle i werthu eu cynnyrch mewn digwyddiadau lleol.

Rydym yn chwilio am bobl ifanc rhwng 14 – 18 oed i ymuno a’r clwb, dilynwch y linc neu’r QR i lenwi’r datgan diddordeb erbyn Mawrth 4ydd! Fydd y sesiwn cyntaf ar ddydd Mawrth 12fed Mawrth.

Cysylltwch gydag Anna am ragor o wybodaeth – anna@ogwen.org

https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLSc7tEEKQavRcP3vKe4W88usA6kw23I3zq57MujiNSbZm2gHiw/viewform

Rydym yn ddiolchgar iawn i’n bartneriaid yn Adra am noddi’r cyfle hwn trwy’r Gronfa Buddsoddi Gymunedol.