Gŵr â Chymru yn ei Galon – Darlith Goffa Dafydd Orwig

Glyn Tomos fydd yn trafod H.R. Jones, Trefnydd cyntaf Plaid Genedlaethol Cymru

Carwyn
gan Carwyn
H-R-Jones

Gŵr lleol fu’n allweddol yn hanes sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru fydd testun Darlith Goffa Orwig a fydd yn cael ei chynnal yn Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen, Bethesda ar nos Lun, 10 Mehefin.

Glyn Tomos, sy’n enedigol o Ddeiniolen ond bellach yn byw yng Nghaernarfon – ac yn un o olygyddion Papur Dre – fydd yn traddodi’r ddarlith eleni.

Mae o wedi dewis traethu ar H. R Jones,  gwr arall o Ddeiniolen, ac a fu’n allweddol yn hanes sefydlu Plaid Cymru.  A bydd Plaid Cymru wrth gwrs yn dathlu ei chanmlwyddiant ers ei sefydlu yn 1925, flwyddyn nesaf.

“Dwi’n siŵr bydd hon yn ddarlith gwerth chweil, ac yn dangos cymaint bu i gymeriadau o ardal y llechi yma yn Arfon gyfrannu at ein hanes cenedlaethol,” meddai Nia Gruffydd, Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd.

Mae’r ddarlith yn cael ei chynnal er cof am y diweddar Gynghorydd Dafydd Orwig, ac yn cael ei drefnu gan Lyfrgelloedd Gwynedd mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Ogwen.

Y manylion llawn: – Darlith Goffa Dafydd Orwig, Nos Lun, 10 Mehefin 2024 am 7.30pm – mynediad am ddim. ‘Gŵr â Chymru yn ei Galon’ H.R.Jones – Trefnydd Cyntaf Plaid Genedlaethol Cymru – gan Glyn Tomos.