Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cyhoeddi eu bod yn chwilio am denant ar gyfer fferm Gwern Gof Uchaf.
“Dyma gyfle gwych i reoli Gwern Gof Uchaf, sef daliad cadwraeth fynyddig wedi’i ei leoli wrth odre Tryfan yn Eryri,” meddai’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar eu cyfrif Facebook.
“Rydym yn edrych am denant newydd sydd gyda’r brwdfrydedd a’r angerdd i gyflwyno rhywbeth arbennig er budd amaethyddiaeth, natur, pobl a’r hinsawdd.
“Mae’r tir ar y daliad 300.79 ha (743.25 erw) yn amrywio o gaeau gwlyb agored ar lawr y dyffryn, trwy ffriddoedd creigiog ac i fyny i’r mynydd-dir.
“Mae’r daliad yn cynnwys ffermdy 4 ystafell wely ac adeiladau traddodiadol gyda maes gwersylla a busnes byncws sefydlog.”
Tirwedd o ansawdd eithriadol
Lleolir Gwern Gof Uchaf ym mhen Llyn Ogwen, gyda therfynau’r fferm yn ymestyn o ymyl y llyn hyd at gopa Tryfan, ac yn agos i gopa’r Glyder Fach.
Mae’r fferm yng nghanol ardal o dirwedd o ansawdd eithriadol o uchel ym mynyddoedd y Glyderau a’r Carneddau ac yn rhan o stad y Carneddau a’r Glyderau a ddaeth i feddiant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1951 o Stad y Penrhyn, yn ymestyn i tua 6,619 hectar (16,356 erw) o dir ac yn cynnwys 8 fferm a 4 eiddo preswyl.
Bu Gwern Gof Uchaf wedi cael ei ffermio gan ein tenantiaid blaenorol am ddegawdau a bu’n rhedeg y maes gwersylla a’r byncws poblogaidd yn llwyddiannus.
Sut i ymgeisio?
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn awyddus i glywed gan ddarpar-denantiaid sydd â phrofiad yn y maes cadwraeth a rheoli da byw i helpu natur i ffynnu yn ogystal â’r dull cywir i groesawu gwesteion i’r fferm.
Mae manylion llawn y denantiaeth ar gael yma.
Dylai unrhyw fynegiannau o ddiddordeb gael ei gyflwyno erbyn 4pm ar ddydd Mercher, 18 Rhagfyr 2024. Pob ymholiad i e-bost: wa.tenantenquiries@nationaltrust.org.uk