Cenedl Cydweithio gyda Mr Kobo

Gweithdy Celf am Ddim Mewn 2 Rhan efo artist lleol Mr Kobo

Robyn Morgan Meredydd
gan Robyn Morgan Meredydd

Cenedl Cydweithio gyda Mr Kobo – Gweithdy Celf am Ddim Mewn 2 Rhan

Cyfle cyffrous a hwyliog a fydd yn cyflwyno dulliau o weithio a rhai disgyblaethau newydd i’r rhai sy’n cymryd rhan, mewn meysydd fel Graffiti, Darlunio, Dylunio Cymeriadau a Chelf Ddigidol wrth ganolbwyntio ar fanteision gweithio ar y cyd yn ogystal ag yn unigol!

Bydd y gweithdai yn cynnwys ystod o wahanol ymarferion creadigol gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau a ddefnyddir gan Mr Kobo wrth greu ei waith ei hun – megis cyfuno Paent Chwistrellu a Posca, Darlunio gan ddefnyddio technegau Pensil ac Inc, yn ogystal â Pyrograffeg/PyroArt!

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn creu eu gweithiau unigol eu hunain i fynd adref gyda nhw, ond hefyd bydd y mynychwyr yn cael cyfle i weithio ar waith celf gydweithredol gyffrous sydd wedi teithio rhwng gweithdai tebyg a gynhaliwyd mewn lleoliadau eraill yng Ngwynedd. Bydd y gwaith hwn yn cael ei arddangos mewn arddangosfa ddiwedd mis Hydref.

Nod y sesiynau yw annog creadigrwydd a hyder wrth greu celf, yn unigol a chydag eraill.

Mae gweithdy’n addas i bobl ifanc oed ysgol uwchradd i fyny at oedolion, ac rydan ni’n gobeithio cael cymysg o oedrannau yn cymryd rhan.

Mae’r sesiwn yn rhad ac am ddim, a bydd yn cael ei gynnal yn ddwyieithog gan Mr Kobo + Artist Gwadd ar 5ed a 12fed Hydref o 1-4 yn y Gofod Gwneud, Canolfan Cefnfaes, Bethesda. Cysylltwch efo gofod@ogwen.org i gadw lle.

Dweud eich dweud