Mae Meleri Davies yn wyneb cyfarwydd i nifer ohonom yma yn Nyffryn Ogwen, ac mae ei gwaith diflino fel prif swyddog Partneriaeth Ogwen wedi bod yn ysbrydoliaeth.
A hithau wedi penderfynu am newid rôl, mae Ogwen360 wedi bod yn ei holi am ei gwaith, y pethau sy’n bwysig iddi a beth sydd ganddi ar y gweill.
Un o le wyt ti’n wreiddiol a beth ddaeth a chdi i Ddyffryn Ogwen?
Un o Gwm Prysor yn wreiddiol ond wedi byw yng Nghaerdydd a theithio’r byd cyn symud nôl i’r gogledd a setlo yn Nyffryn Ogwen 20 mlynedd yn ôl.
Dwi bellach yn byw yn Llanllechid efo Meirion y gŵr a Gwydion, Lloer ac Eiri y plant.
Wyt ti’n mwynhau byw yn yr ardal?
Dwi’n caru byw yma. Y diwylliant, y tirlun, y bobol. Dwi’n teimlo’n freintiedig iawn cael byw mewn ardal mor arbennig.
Oes gen ti hoff lefydd yn Nyffryn Ogwen?
Y brynia a’r mynyddoedd tu ôl i fy nghartref. Dwi’n aml yn mynd fyny Moel Faban neu’r Gyrn efo fy llyfr nodiadau i glirio fy mhen neu sgwennu chydig.
Mi fues di’n gweithio i Bartneriaeth Ogwen am 10 mlynedd, beth oedd y prosiectau ti fwyaf balch ohonyn nhw?
Y peth mwya dwi’n falch ohono ydy’r ffaith ein bod ni’n fenter sy’n cynnig swyddi da yn ein cymuned i dros 20 o bobol leol.
Mae’r rhai sy’n gweithio i ni yr un mor angerddol am eu cymuned ag ydw inna a mae o wedi bod yn anhygoel gweld sgiliau a hyder staff yn datblygu.
O ran prosiectau, dwi’n meddwl mai Ynni Ogwen ydy’r prosiect pwysicaf i fi yn fy ngyrfa. Mae o wedi newid fy myd-olwg i a dangos grym gweithredu a pherchnogi lleol.
Dwi dal yn Gyfarwyddwr gwirfoddol efo Ynni Ogwen a mae o mor hyfryd gweld y cynllun yn rhoi gymaint yn ôl i’r gymuned.
Sut brofiad oedd penderfynu camu lawr o’r rôl efo Partneriaeth Ogwen?
Ar lefel emosiynol, roedd hi’n anodd iawn camu i lawr o’r rôl. Ar hyd y blynyddoedd dwi wedi disgrifio’r gwaith fel mwy o alwedigaeth na swydd a hynny am fod rhywun yn rhoi eu henaid i’r holl beth. Ti’n gweithio er budd y gymuned a’r ardal ti’n byw ynddi, be gei di well?
Ond, ar lefel bersonol, dwi’n gwybod mod i isio gwneud fwy o amser i deulu a gwaith creadigol felly dyna pam dwi’n camu i’r ochor.
Dwi hefyd yn teimlo’n falch mod i’n trosglwyddo’r awenau rŵan a ddim yn aros tan dwi’n ymddeol! Mae meithrin gweithleoedd hyderus a chreu arweinwyr cymunedol yn rhywbeth ddylen ni gyd ei wneud.
Mae gadael yn gwbod fod Donna a’r staff yn parhau efo’r gwaith wedi gwneud y peth yn haws.
Beth ydi dy gynlluniau di rŵan?
Gweithio’n llawrydd fel ymgynghorydd datblygu cymunedol fyddai o ddydd i ddydd.
Bydd y cytundebau’n amrywiol ac yn cynnwys gweithio deuddydd yr wythnos fel Prif Weithredwr interim i’r Galeri dros y 6 mis nesaf.
Dwi hefyd yn gweithio efo criw Partneriaeth Dyffryn Peris i greu endid datblygu cymunedol i’r ardal.
Mae gweld mwy o fentrau cymunedol yn datblygu a ffynnu yn fy nghyffroi felly unrhyw beth ellai wneud i gefnogi hynny, mi wnai o! Mi fyddai hefyd yn parhau i gefnogi gwaith Partneriaeth un diwrnod yr wythnos.
Rwyt ti’n ysgrifennu’n greadigol hefyd, oes gen ti rywbeth ar y gweill yn fuan?
Yn greadigol, dwi’n rhyddhau cyfrol o gerddi “Rhuo ei distawrwydd hi” efo Cyhoeddiadau’r Stamp fis nesaf a dwi wastad yn creu rhywbeth neu’i gilydd!
Mae barddoni wedi nghynnal i trwy gyfnodau anodd dros y blynyddoedd felly dwi’n nerfus ond yn gyffrous iawn am y gyfrol!
Diolch i Mel am rannu a hefyd am ei gwaith arbennig gyda Phartneriaeth Ogwen, mae’r llu o brosiectau cyffrous a blaengar sydd ynghlwm â’r fenter yn dyst i’w hymdrech a dyfalbarhad.
Byddwn yn siŵr o rannu mwy am ei chyfrol newydd a fydd ar gael i’w brynu yn fuan, felly cofiwch gadw llygad am y diweddaraf.