Audrey a James yn ymuno â chynllun Rhannu Cartref Gwynedd

Mae dau unigolyn yn ardal Rhiwlas wedi cael budd mawr o gynllun newydd gan Gyngor Gwynedd

Mirain Llwyd Roberts
gan Mirain Llwyd Roberts
Homeshare-Gwynedd-1

James ac Audrey yn mwynhau sgwrs dros baned

Audrey-a-James-5-2

James ac Audrey yn gwneud llestri ar ôl mwynhau swper

Lansiwyd Rhannu Cartref y llynedd a’i nod yw paru pobl sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol i fyw’n annibynnol gartref, ag eraill sy’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i gartref addas a fforddiadwy. Mae pawb ar ei ennill gyda’r cynllun.

Mae Audrey a James wedi bod yn cyd-fyw ers tri mis ac yn awyddus i rannu eu profiadau fel bod eraill yn dod yn ymwybodol o fanteision rhannu cartref drwy’r cynllun.

Mae Audrey yn wraig weddw ac yn ei chael hi’n fwyfwy anodd i ymdopi ar ei phen ei hun. Roedd James wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith garddio i Audrey pan gafodd ei hun mewn sefyllfa lle’r oedd yn chwilio am rywle i fyw. Mae’r cynllun wedi bod yn ateb perffaith i’r ddau.

Yn ôl Audrey,

 “Roedd gen i ddigon o le yn y tŷ, felly roedd yn gwneud synnwyr. Mae James yn gwmni mor dda ac yn fy helpu o gwmpas y tŷ. Mae’n helpu gyda siopa ac ychydig o arddio.  Mae cael James yma yn rhoi tawelwch meddwl a chwmnïaeth’’.

Mae’r cynllun yn un sydd yn helpu pawb sydd ynghlwm trwy roi cymorth o hyd at ddeng awr yr wythnos i’r person sy’n cynnig y llety a gall hynny fod yn beth bynnag mae rhywun ei angen o arddio, i smwddio, i goginio neu hyd yn oed cwmnïaeth. Mae’r unigolyn sy’n symud mewn yn derbyn llety fforddiadwy sydd lawer rhatach nag unrhyw beth sydd ar gael ar y farchnad ac yn cael mwynhau’r gallu o gynnig help llaw.

Yn ôl James,

“Mae’r cynllun yn gweithio’n dda i mi, alla i ddim coelio pa mor lwcus dw i wedi bod i ddod o hyd i le mor braf i fyw. Mi fyddai’n edrych ymlaen at goginio gyda’r nos a rhoi’r byd yn ei le efo Audrey’’.

Mae elfen diogelu yn holl bwysig i’r cynllun hwn a’r holl wiriadau yn cael eu cyflawni gan Richard, swyddog yng Nghyngor Gwynedd, os ydych yn ’nabod unrhyw un fuasai’n elwa o’r math yma o gynllun beth am sgwrs anffurfiol gyda Richard (manylion ar waelod yr erthygl)? Neu cewch fwy o wybodaeth ar wefan y Cyngor.

Richardwynwilliams@gwynedd.llyw.cymru / 07388 859015

Yn rhinwedd y cynllun mae’r ddau hefyd wedi cael gwahoddiad i fynychu’r Parti Gardd Brenhinol ym Mhalas Buckingham ym Mis Mai ac yn edrych ymlaen yn arw.