Ar Ragfyr y cyntaf, dechreuodd Bob Coblyn ar ei daith o amgylch Bethesda a’r ardal i ymweld â siopau a busnesau bach lleol.
Amcan Bob oedd darganfod yr holl fargeinion a’r anrhegion gorau Nadolig a oedd ar gael ar ein stepan drws ac wrth gwrs, i hybu ein busnesau lleol.
Dechreuodd ei daith yn ffenestr Bethesda Wholefoods, lle cafodd eistedd yn ddel ger y cynhwysion ffres. Ymwelodd â Londis nesaf, lle bu’n gwledda ar y siocledi Nadolig a’r bwydydd oedd ar gael yno. Nesaf, aeth am dro i Grochendy Bethesda ar y Stryd Fawr i edrych ar eu crochenwaith hyfryd sydd wedi eu gwneud a llaw.
Siop Ogwen oedd yr alwad nesaf i wneud dipyn o siopa Nadolig i’w ffrindiau, roedd wedi gwirioni efo’r holl ddewis llyfrau Cymraeg sydd yno. Cynorthwyodd Cadwyn Ogwen hefyd gan fynd ar daith yn y fan i ddarparu cynnyrch lleol i drigolion yr ardal.
Ym Meolyci aeth Bob i brofi’r moron ffres a’r cynnyrch amrywiol sydd ar gael yng Nghaffi Blas Lôn Las. Bu’n ymweld ag Annie’s Orphans ar y Stryd Fawr, lle eisteddodd ger yr addurniadau Nadolig. Ar Ragfyr y 13eg aeth i Ganolfan Cefnfaes i gael llond bol o ginio Nadolig gwerth chweil gan Swpar Chwaral (Hwb Ogwen).
Ymlaciodd yn ffenestr Anne Jeannette un bore, wrth syllu ar enfys o wlân sydd ar gael yno. Roedd Bob wedi blino’n lan ar ôl bod yn cymdeithasu’n hwyr un noson yn Llaethdy Gwyn, lle roeddynt yn mwynhau Noson Caws a Chân. Yn olaf, ymwelodd Bob â Penrhyn Pictures, hefyd ar y Stryd Fawr, lle’r oedd wedi rhyfeddu ar yr holl baentiadau, yn enwedig y rhai sy’n arddangos ein harddwch lleol.
Dwi’n sicr fod Bob wedi cael hwyl ar ei daith, yn enwedig pan gafodd fod yn brentis yng ngweithdy AmserAl am ddiwrnod.
Hoffwn ni ym Mhartneriaeth Ogwen ddiolch i’r busnesau canlynol am edrych ar ôl Bob am ddiwrnod ym mis Rhagfyr – Crochendy Bethesda, Siop Ogwen, Cadwyn Ogwen, Londis Bethesda, Bethesda Wholefoods, Swpar Chwaral, Cosyn, AmserAl, Caffi Blas Lon Las MoelyCi, Anne Jeanette ag Annie’s Orphans!
Gobeithio welwn i chdi Nadolig nesaf hefyd Bob!