Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Gyda’r eira yn parhau fore heddiw a rhagolygon fod y tywydd yn debyg o barhau, mae nifer o ysgolion yr ardal wedi cadarnhau na fyddant ar agor heddiw.
Mae Ysgol Dyffryn Ogwen wedi cadarnhau y bydd ar gau heddiw (9 Mawrth).
Mae Ysgol Llanllechid ynghyd ag Ysgol Abercaseg a Phenybryn wedi gadael i deuluoedd na fydd ar agor oherwydd yr eira yn ogystal.
Bydd manylion am unrhyw ysgolion fydd ynghau heddiw yn cael eu diweddaru ar wefan Cyngor Gwynedd.