Ydych chi’n barod ar gyfer Gŵyl Ara Deg?

Pumed rhifyn yr ŵyl yn dechrau nos Iau yma

Carwyn
gan Carwyn
gruff-socials
yann-socials
cerys-socials

Mae Gruff Rhys, Yann Tiersen, Deerhoof, Cerys Hafana a Rozi Plain ymhlith yr artistiaid lleol a rhyngwladol fydd yn perfformio yn y pumed rhifyn o Ara Deg sy’n cychwyn nos Iau yma, 24 Awst, ac yn gorffen nos Sadwrn, 26 Awst.

Nos Iau

Quinquis, sef Émilie Tiersen a’i sain electronig hudolus Llydaweg fydd yn agor yr ŵyl. Bydd yn hwylio draw i ŵyl Ara Deg gyda’r artist-gyfansoddwr byd-enwog Yann Tiersen ar eu cwch Ninnog, a enwyd ar ôl Sant Ninnoc, abaty canoloesol a aned yng Nghymru yn ôl y sôn a teithio i Lydaw i ddod yn warchodwr merched, amaethyddiaeth a choed.

Mae’r artistiaid Llydaweg yn ystyried eu taith yn Ninnog fel datganiad gwleidyddol yn herio effaith ecolegol teithiau mawr sefydledig ac fel ffordd o sefydlu cysylltiadau gyda chymunedau.Dilynir Quinquis gan Permanent Draft, label recordiau a sefydlwyd gan yr awdur/bardd Fanny Chiarello (Ffrainc) a’r cerddor Valentina Magaletti (Yr Eidal), drymwraig, offerynwraig taro a chyfansoddwraig.Bydd cyngerdd dydd Iau yn cloi gyda harmonïau emosiynol Rozi Plain, sy’n dychwelyd i Ara Deg yn dilyn ei hymweliad yn 2022 pan oedd yn chwarae bas gyda’i band This Is The Kit.

Dydd GwenerYn agor y perfformiad dydd Gwener bydd Cathead sef Gwen Siôn, cyfansoddwraig arbrofol ac artist aml-ddisgyblaethol o Rachub.

Yn cael ei mentora ar hyn o bryd gan Brian Eno, mae hi’n gweithio gyda sain, ffilm, cerflunwaith a gosodiadau i greu gweithiau wedi’u hysbrydoli gan ecoleg a mytholeg.Yn perfformio hefyd, mae’r artist Cerys Hafana, sy’n feistr ar y delyn deires. A’r yr albwm ‘Edyf’, mae Cerys yn ymchwilio i gyseiniannau cyfoes caneuon sydd heb eu canu ers 200 mlynedd y daeth o hyd iddynt yn archifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda lleisiau ysgafn, alawon disglair a chwilfrydedd amrwd sy’n hynod gyfoes.Dilynir Cerys gyda set gan Yann Tiersen, sy’n adnabyddus ar draws y byd am draciau sain ffilm sy’n cynnwys Amélie a Good Bye, Lenin. Gan wthio ffiniau cerddorol ac offeryniaeth fel artist recordio, perfformiwr byw cyffrous sydd wedi cydweithio gyda nifer o artistiaid o Dominique A a Françoiz Breut i The Divine Comedy, Elizabeth Fraser, Sage Francis a’r diweddar Jane Birkin. Mae ei set yn cyd-fynd â rhyddhau ei waith diweddar ‘Kerber Complete’, sy’n olrhain esblygiad ei brosiect mwyaf diweddar.

Y diwrnod olafMae gyrfaoedd nifer o berfformwyr dydd Sadwrn yn ymestyn yn ôl i’r 1990au hefyd, gan gynnwys Ian F Svenonius.

Dechreuodd ei yrfa gyda The Nation of Ulysses o Washington DC a’i albwm ’13-Point Program To Destroy America’. Bydd Svenonius, sydd hefyd yn awdur cyhoeddedig ac yn cynnal sioe siarad ar-lein, yn agor y diwrnod gyda darlith yn ymwneud â’i “lyfr i ddiweddu pob llyfr” diweddaraf ‘Against The Written Word’ a dangosiad o ‘The Lost Record’, sef ffilm a wnaed ar y cyd ag Alexandra Cabral, wedi’i saethu ar 16mm am ferch sydd wedi’i rhwygo rhwng datgelu campwaith o albwm i’r byd neu gadw’r cyfan iddi hi ei hun.Yn hwyrach, bydd Svenonius yn perfformio fel Escape-ism, sef prosiect roc a rôl egnïol. Bydd Gruff Rhys yn perfformio caneuon gan gynnwys o’i albwm ‘Seeking New Gods’ ac ‘The Almond and The Seahorse’.

Daw perfformiad byw olaf Ara Deg yn 2023 gan Deerhoof, yr arbrofwyr dylanwadol o San Francisco.

Cadwch lygad allan

Bydd Radio Ara Deg yn darlledu drwy gydol yr ŵyl yn fyw o dafarn y Fic gan gynnwys cyfweliadau a sesiynau byw gydag artistiaid AD23.

Bydd digwyddiadau eraill a pherfformiadau ar hap yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnos a gynhelir ym Methesda a’r cyffiniau felly cadwch olwg ar gyfrifon Ara Deg, ac i archebu tocynnau ewch draw i’r wefan yma.