gan
Ar Goedd
Bydd ocsiwn Nadolig yn cael ei chynnal yng Nghlwb Rygbi Bethesda ddiwedd y mis, ac mae gan ddarllenwyr Ogwen360 gyfle arbennig i gael blas ar yr eitemau fydd ar gael.
Cynhelir y noson ar 18 Tachwedd, ond bydd cyfle i roi cynnig am eitemau o flaen llaw hefyd. Ymhlith y pethau sydd ar gael mae gweithiau celf, hampyrs cynnyrch lleol, gemwaith o safon ac englyn comisiwn gan Myrddin ap Dafydd. Mae rhestr lawn o’r gwobrau i’w gweld isod.
Felly dewch draw i Glwb Rygbi Bethesda ar 18 Tachwedd. Mae pris tocyn yn £15 ac yn cynnwys bwyd poeth ac adloniant gan y Cyffro.
Bydd pob ceiniog o’r noson yn cyfrannu at sicrhau mai Catrin Wager fydd Aelod Seneddol nesaf yr ardal.
Tocynnau ar gael yma.
Eitemau’r Ocsiwn:
- Tocyn oes pier y Garth gan Gyfeillion Pier y Garth.
- Hampyr o gynnyrch Coffi Eryri a Cwrw Nant.
- Cinio Sul i ddau yn y Llechen, Tal-y-Bont ger Bangor.
- Taith tywys o stiwdio Sain gan Dafydd Iwan.
- Bwyd a diod i deulu o 4 gyda diod feddal neu feddwol yn Nhafarn y Garth, Bangor.
- MOT gan Arwyn Owen, Garej Tŷ Gwyn, Llanrwst.
- Potel o wisgi Tŷ’r Arglwydd wedi’i arwyddo gan Dafydd Wigley.
- Cacen ar gyfer unrhyw achlysur gan Elin Walker-Jones.
- Gwers crochenwaith neu daleb gwerth £50 gan Grochenwaith Gwenllian Dwyfor.
- Hampyr Llaethdy Plas Isa, Llansanffraid Glan Conwy.
- Print ‘Bangor’ gan yr artist lleol Sioned Glyn
- Mwclis gan y gwneuthurwr a’r dylunydd Ann Catrin Evans.
- Darn o gelf yn darlunio arfordir Cymru gan yr artist Mavis Gwilliam. Rhoddir yr eitem gan Gwyneth John.
- Cerdd o ‘Rhyddid’, pryddest fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 yn llawysgrifen Rhys Iorwerth.
- Twrci ar gyfer y Nadolig gan Jones a’i Fab, Llanrwst.
- Englyn Comisiwn gan y cyn-Archdderwydd Myrddin ap Dafydd.
- Print gan Luned Rhys Parri yn darlunio’r brotest enwog ar Bont Trefechan
- Crys pêl-droed Cymru wedi’i arwyddo.