Prifysgol Bangor – Project Ymchwil Dyffryn Ogwen – Galwad am gyfweliadau

Mae Alex Ioannou, ymchwilydd doethurol ym Mhrifysgol Bangor yn galw ar bobl Ogwen!

gan Catrin Angharad Jones
20220726_194759

Dyffryn Ogwen

Mae Alex Ioannou, ymchwilydd doethurol ym Mhrifysgol Bangor yn galw ar bobl Ogwen! Allwch chi fod o gymorth, tybed? 

Yng ngeiriau Alex ei hun, dyma ei gais:

‘Mae cymaint o agweddau ar y materion amgylcheddol a chynaliadwyedd sy’n ein hwynebu yn gysylltiedig â’r dirwedd: sut caiff ei defnyddio, ei rheoli, ei newid a’i gweld. Mae treftadaeth, traddodiad, diwylliant a hunaniaeth yn dylanwadu’n drwm ar y cysylltiad rhwng ein cymdeithas â’r tir.

Alex Ioannou ydw i ac rwyf yn ymchwilydd doethurol ym Mhrifysgol Bangor. Mae fy mhroject, ‘Reframing Wales’  yn gydweithrediad rhwng Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a Chanolfan Defnydd Tir Cynaliadwy Syr William Roberts ac mae’n pontio disgyblaethau hanes a gwyddorau cymdeithas

Bwriad y project ‘Reframing Wales’ yw cyfuno dealltwriaeth fwy cynhwysfawr gyda gwahaniaethau cynnil am ‘stori’ hanesyddol tirwedd gogledd-orllewin Cymru.

Gobeithir y bydd casgliadau’r project hwn yn herio ac yn llywio’r broses bresennol o wneud penderfyniadau ar raddfa’r dirwedd yma yng Nghymru.

Rwyf wedi nodi dwy brif ffordd o gasglu gwybodaeth am fy mhwnc – trwy ymchwil archifol yn Archifau Prifysgol Bangor a chyfweliadau ar lawr gwlad. Credaf ei bod yn bwysig gwrando ac ymgysylltu â gwybodaeth leol i gael gwell dealltwriaeth o ganfyddiadau pobl o newid a’u dealltwriaeth o le.

Yr alwad:

Mae hwn yn alwad i’r rhai sydd â chysylltiadau yn awr ac yn y gorffennol â Dyffryn Ogwen ac a hoffai gymryd rhan mewn cyfweliad a fydd yn para awr i drafod y cysylltiadau hynny. Mae gennyf ddiddordeb mewn siarad â phobl sy’n byw, yn gweithio, neu’n ymwneud â Dyffryn Ogwen mewn ffyrdd arwyddocaol.

Y cyfweliad:

Cynhelir y cyfweliad yn Saesneg a bydd yn gyfle i chi rannu eich gwybodaeth a’ch profiad am newidiadau yn Nyffryn Ogwen (yn ystad hanesyddol y Penrhyn) neu am y newid yn y dirwedd yn ehangach ar draws gogledd-orllewin Cymru.

Byddaf yn cynnal y cyfweliad ac yn gofyn cwestiynau arweiniol. Ond bydd yn gyfweliad hyblyg lle byddwch yn rhydd i rannu’r hyn sy’n ymddangos i chi fel y materion pwysicaf mewn perthynas â’r cwestiynau. Mae’n bwysig nodi y byddaf yn gwneud recordiad sain yn ystod y cyfweliad i helpu gyda thrawsgrifio yn ddiweddarach.

Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â mi.’

Dymunwn y gorau i ti, Alex gyda’r ymchwil!

Os am gysylltu â gAlex i’w gynorthwyo, gweler y manylion isod:

Lxn21sjx@bangor.ac.uk

(Rwy’n hapus i ateb cwestiynau a/neu ddarparu rhagor o wybodaeth am y project.)

Rhagor o wybodaeth:
Gwefan y project: https://reframing.wales/

Gwefan Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru: http://iswe.bangor.ac.uk/

Gwefan Canolfan Defnydd Tir Cynaliadwy Syr William Roberts: http://swrc.bangor.ac.uk/

Ychydig mwy o gefndir Alex:
Rwy’n ymchwilydd doethurol o Cyprus yn fy ail flwyddyn yn astudio PhD ac yn aelod o Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor. Rwyf hefyd yn gweithio’n rhan-amser i Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r PhD hwn yn annibynnol ar fy ngwaith gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac nid yw’n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd. Rwyf wedi fy hyfforddi fel pensaer tirwedd ac rwy’n awyddus i wrando, ac edrych ar y newidiadau hanesyddol, presennol ac i’r dyfodol i’r dirwedd yma yng ngogledd-orllewin Cymru.