Mynd am dro ym Mharc Meurig

Cyfaill Cymunedol Partneriaeth Ogwen yn cynnig cwmni a sgwrs.

gan Huw Davies
2023_07_31-Nerys-O-Parc-Meurig-2

Gwneud yn fawr o’r heulwen yn y Parc.

Mewn adeg o dywydd braf yn ddiweddar cafodd Linda Brown (Cyfaill Cymunedol Partneriaeth Ogwen) a Nerys Owen sy’n breswylydd ym Mhlas Ogwen amser gwych yn cerdded o amgylch y llwybrau ym Mharc Meurig, Bethesda.

Dyma’r tro cyntaf i Nerys gael mynd i’r parc ac roedd hi wrth ei bodd gweld y gwaith celf arbennig o gymeriadau Llyfr Mawr y Plant – sydd wedi eu lleoli mewn mannau o gwmpas y coed – Wil Cwac Cwac, Ifan Twrci Tenau, Sioni Ceiliog Glas,  Sion Blewyn Coch ayb. Roedd gweld y lluniau yn mynd a Nerys yn ôl i’w phlentyndod.

Hoffai Nerys meddai hi, ddistawrwydd y parc – ymhell o sŵn traffig yr A5. Yn wir, meddai Linda, roedd hi’n hyfrydwch pur ei gweld hi’n gwerthfawrogi’r byd natur o’i chwmpas  – sylwi ar gymaint o fwyar duon sydd yn tyfu ymysg y coed, gwrando ar gân yr adar, bwrlwm yr afon.

Roedd hi’n cael pleser yn gwylio’r plant yn chwarae tenis ar y cwrt sydd wedi ei leoli yn y parc.

Roedd clywed Nerys yn dweud bod hi wedi mwynhau’r ‘dro’ yn fawr iawn yn codi calon rhywun.

Os oes yna unrhyw berson mewn oed o Ddyffryn Ogwen fasai’n hoffi cael cwmni i fynd am dro bach yn ardal Bethesda mae croeso i chi gysylltu â Linda ar 07492290041 neu 01248602131.