Mynd am dro – Cwm Idwal i Fethesda

Gwneud y mwyaf o fore braf 

Carwyn
gan Carwyn

Fyddwn i ddim yn dweud mod i’n un o’r creaduriaid mwyaf heini ar wyneb daear, ond mae cael mynd am dro hamddenol yn un o bleserau bywyd.

Pa ffordd well o fwynhau’r ardal arbennig yr ydan ni’n byw ynddi?

Dyna wnes i fore ’ma digwydd bod. Gweld fod y tywydd yn gaddo hi’n sych a chan fod gen i ddiwrnod i ffwrdd, roedd hi gystal syniad a’r un.

Bws Ogwen

Doeddwn i heb fod ar y bws trydan cymunedol Bws Ogwen o’r blaen, ond mae hi’n drefn hwylus iawn gyda gwasanaeth rheolaidd rhwng Bethesda ac ymlaen i fyny’r dyffryn ac ar adegau yn teithio i Gapel Curig.

Dwy bunt ydi tocyn unffordd i Ogwen a dyna dro braf i fyny o’r A5 am Gwm Idwal. Er bod yna ambell un arall o gwmpas, roedd hi’n ddistaw braf a chyfle i ymgolli yn y llonyddwch tawel.

Lôn Las

Wedi panad sydyn, dyna anelu nôl am Fethesda i gyfeiriad Lôn Las Ogwen.

Fawr neb yn dod i fy nghyfwr heblaw ambell ddafad nes i mi ddod nes at Fethesda.

Erbyn hynny roedd cwpl o feicwyr chwim – ond o fwrw golwg sydyn dwi’n amau fod nhw yn feiciau trydan. Syniad da i fyny’r elltydd na!

Cadwyn Ogwen

Roedd y daith ar hyd y llwybr yn ddistaw braf, a dyna gofio wrth nesáu at ardal Chwarel y Penrhyn fod gen i archeb o gynnyrch lleol yn fy nisgwyl yn Llaethdy Gwyn, lle mae caws hyfryd Cosyn Cymru yn cael ei gynhyrchu.

Felly fe es draw i nôl fy archeb Cadwyn Ogwen. Mae modd codi eich archeb o sawl lleoliad neu drefnu iddo gael ei anfon atoch. Cofiwch wneud eich archeb erbyn hanner dydd ar ddydd Mawrth er mwyn cael y cynnyrch ar ddydd Iau.

Eich hoff le i fynd am dro?

A dyna ni – beth am rannu lluniau neu eich hoff daith gerdded chi yn Nyffryn Ogwen.

Mae cyfrannu i Ogwen360yn ddigon rhwydd – rhannwch eich hoff le chi’n lleol i fynd am dro!