Merch Ffrancon House yn Gynghorydd

Y ferch leol, Einir Wyn Williams, sy’n ateb ychydig o gwestiynau i ni ddod i ddysgu mwy amdani

gan Ffion Edwards
Einir-Wyn-Williams1

Cynghorydd Gerlan, Einir Wyn Williams

Mae Einir yn Gynghorydd Plaid Cymru Gwynedd dros Ward Gerlan, Dyffryn Ogwen ers mis Mai llynedd. Dyma ddod i adnabod mwy amdani a’i gwaith…

  1. Enw? Einir Wyn Williams
  2. Oed? 46
  3. Ymhle cawsoch eich geni? Ces fy ngeni yn Ysbyty Bangor a’m magu yn Braichmelyn, Bethesda yn nhŷ siop, Ffrancon House, siop grosar yn y pentre. Does gen i ddim cof o’r lle fel siop, achos yn fuan wedi i mi gael fy ngeni, mi drodd fy nhad a mam y siop yn gartref teuluol i ni.
  4. Ymhle ydych chi’n byw? Dwi’n byw fyny’r lôn o’m cartref yn stad Bryn Caseg.
  5. Oes gennych chi deulu? Oes, dwi’n briod â Chris ac mae gennym ni dri o blant; Enoc sy’n 16, Cari sy’n 15 a Begw sy’n 11.
  6. Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf am fod yn Gynghorydd Sir? Dwi’n hoff iawn o allu helpu pobl leol, trafod eu pryderon a’u cynorthwyo i ddatrys problemau. Dwi wrth fy modd yn cyfarfod pobl newydd ac wedi gorfod dysgu cymaint o bethau newydd a gwahanol ers dod yn gynghorydd sir. Ro’n i ar y Cyngor Cymuned am bum mlynedd cyn dod yn Gynghorydd Sir, felly ro’n i’n barod i gymryd y cam nesaf. Dwi wedi setlo i’r rôl ac yn gwneud y gwaith rhwng fy swydd rhan amser yn gweithio i Swyddfa’r Post.
  7. Beth ydych chi’n ei gasáu fwyaf am fod yn Gynghorydd Sir? Y peth mwya rhwystredig am y gwaith ydi’r fiwrocratiaeth. Mae’r oedi a’r haenau o lefelau yn achosi cur pen wrth geisio datrys problem neu ddod o hyd i ateb ar ran unigolyn neu sefydliad. Mi rydyn ni hefyd yn ddibynnol ar bartneriaethau o fewn y cyngor, yn aml iawn, sy’n gallu achosi oedi i drio symud pethau ymlaen.
  8. Pwy yw eich arwr / arwres? Fy nhad oedd fy arwr. Mi gollais fy nhad, Alwyn Parry, 25 mlynedd yn ôl. Fuodd o ddim yn iach ers iddo ddal y diciâu, yn blentyn. Adeiladwr oedd dad wrth ei waith, ac mi weithiodd yn galed ar hyd ei oes. Mi ddysgodd werthoedd ac egwyddorion i ni blant gan ddweud y gallwch chi gyflawni unrhyw beth os rhowch eich meddwl ar waith ac ymdrechu’n galed.
  9. Beth yw eich atgof plentyn hapusaf? Mynd yn y garafan ar ein gwyliau efo mam a dad a mrawd a’n chwaer. Oedd gynno ni y garafan lleiaf erioed ond roeddan ni’n teithio i bob math o lefydd ledled Prydain. Roedden ni’n teithio o gwmpas am bythefnos yn hapus ein byd er nad oedd dim trydan na lle chwech yn y garafan. Roedd yn wyliau syml braf ac mae’n dwyn atgofion hapus iawn i gof.
  10. Beth yw eich ofn mwyaf? Yr ofn mwyaf sydd gen i ydi cael fy ngyrru i’r carchar. Dwn i ddim pam.., ella oherwydd y straeon mae rhywun yn eu darllen am bobl yn cael bai ar gam neu’r ffaith mod i’n fam ac yn meddwl sut byddai’r plant yn ymdopi hebddai. Ond dyna’r ofn, afresymol, sydd gen i!