Heddlu’n annog ffermwyr i fod yn wyliadwrus yn dilyn lladrata

Beic pedair olwyn wedi ei ddwyn o Abergyngregyn

Carwyn
gan Carwyn

Mae’r Heddlu yn annog amaethwyr i fod yn ofalus o offer ar eu tir ar ôl i gerbyd pedair olwyn gael ei ddwyn yn y dyddiau diwethaf.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, mae Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru yn “rhybuddio cymunedau amaethyddol fod yn wyliadwrus yn dilyn lladrad beic pedair olwyn”.

Fe wnaeth y llu dderbyn adroddiad fod beic pedair olwyn Yamaha Kodiak 450 gwyrdd tywyll (2019) wedi’i ddwyn o fferm yn ardal Abergwyngregyn rhwng 10pm ar nos Iau, 19 Hydref ac 8am ar fore Gwener, 20 Hydref.

Apelio am wybodaeth

“‘Da ni’n apelio ar unrhyw un a oedd yn teithio drwy ardal Abergwyngregyn dros nos ar y dyddiadau uchod ac sydd efallai wedi gweld ymddygiad amheus neu hefo ffilm camera cerbyd i gysylltu hefo ni,” meddai’r Rhingyll Cymorth Ardal Andrew Davies.

“Ar ben hynny, ’da ni’n gofyn i ffermwyr yn yr ardal barhau’n wyliadwrus am weithgarwch amheus a sicrhau fod unrhyw offer drud iawn wedi’i gadw’n saff pan nad ydyw’n cael ei ddefnyddio.”

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda’r heddlu drwy eu gwefan neu drwy ffonio 101 gan ddyfynnu cyfeirnod 23001031764.