Gyda thymor y cynhaeafu a’r diolchgarwch ar y gweill mae criw Partneriaeth Ogwen am fod wrthi unwaith eto’n cefnogi cymuned Dyffryn Ogwen i greu sudd afal iachus allan o’r cnwd anferthol o ‘fala a gafwyd ‘leni.
Mae’r digwyddiad wedi digwydd sawl tro o’r blaen gyda niferoedd helaeth o drigolion yn dod a’u ffrwythau i Lys Dafydd ar gyfer gwasgu’n sudd bendigedig. Judith Kaufmman o Afallon fydd yn arwain y sesiwn ac ‘rydym yn edrych ymlaen at groesawu’n cyfeillion i Lys Dafydd rhwng 10yb a 3yp ar ddydd Sadwrn, Hydref 14eg.
Meddai Huw Davies o’r Bartneriaeth: “Chewch chi’m gwell na sudd afal cartref, yn berffaith i’w yfed yn syth bin, i’w rewi ar gyfer y ’Dolig neu i’w adael i droi’n seidr yn ara’ deg!”
Ychwanegodd Chris Roberts, GwyrddNi: ” Yn ein Cynulliadau Cymunedol fe ddywedodd trigolion Dyffryn Ogwen wrthym ni fod tyfu a defnyddio bwyd lleol yn bwysig. Dyma gyfle felly’i wneud defnydd o’r afalau hyfryd sy’n tyfu yn ein Dyffryn.”
Yn ogystal â chreu sudd bydd Hwb Ogwen yn bresennol ar gyfer derbyn cyfraniadau o fwydydd ar gyfer pecynnau argyfwng.
“Ryda ni’n ddiolchgar iawn am y rhoddion rydym yn dderbyn yn rheolaidd gan y Capeli, Eglwysi, Cymdeithasau a’n basged rhoddion yn Londis,” meddai Marie Hodson, Rheolwr Hwb Ogwen.
“Serch hynny mae galw cynyddol am ein gwasanaethau ac mi fuasai rhoddion o fwydydd sychion a thuniau fel cig, pysgod a ffrwythau yn dderbyniol iawn.”
Ac yn olaf, beth am baratoi rhywbeth bach i’w fwyta gyda rhywfaint o’ch afalau – teisen neu grwmbl? Byddwn yn anrhydeddu’r ‘enillydd’ a bwyta’r cwbl wrth wasgu’r afalau!
Bydd y sesiwn ymlaen 10:00 – 15:00 yn Llys Dafydd, Stryd Fawr Bethesda. £3 y wasgfa.