Oes gennych chi lun ar gyfer calendr nesaf Llais Ogwan?

Cyfle i gynnig delwedd o’r ardal ar gyfer rhifyn 2024

Carwyn
gan Carwyn
2A9EEA6E-4A3D-4729-A77C

Does dim dwywaith fod gan Ddyffryn Ogwen dirlun rhyfeddol a golygfeydd i’w trysori.

Tybed felly oes gennych chi lun yr ydych chi wedi’i dynnu a fyddai’n addas ar gyfer rhifyn 2024 o Galendr Llais Ogwan?

Wel, gyda’r tywydd i weld yn gwella, mae gennych chi ryw ddau fis i dynnu llun er mwyn ystyriaeth gan Glwb Camera Dyffryn Ogwen.

Lluniau tirlun

Bydd unrhyw lun o Ddyffryn Ogwen – gan gynnwys y Carneddau a’r Glyderau yn cael eu hystyried.

Dylai’r lluniau fod tua 1mb neu fwy os bosib o ran maint, a gofynnir am luniau ar ffurf tirlun.

Dros 100 o luniau i ddewis

Dywed Nigel Beidas, o’r Clwb Ffotograffiaeth fod dethol y lluniau yn waith caled bob blwyddyn.

“Y llynedd cawsom dros 100 o luniau, sy’n wych, – ond dim ond 13 sy’n gallu cael eu dewis, felly bob blwyddyn mae’n anodd iawn,” eglurodd Nigel.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bawb sy’n eu hanfon i mewn, mae’n ymdrech gymunedol wych!”

Mae angen e-bostio lluniau at calendr2024@outlook.com erbyn 30 Mehefin, gyda’r lluniau yn cael eu dewis ar gyfer y calendr ym mis Gorffennaf.