![402344525_318263724288734](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/4/2023/11/402344525_318263724288734-308x432.jpg?g)
Mae trefnwyr Carnifal Bethesda yn cynnal Ras Siôn Corn i godi arian ar gyfer y digwyddiad cymunedol.
Bydd y ras yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn, 2 Rhagfyr gan gychwyn o Glwb Rygbi Bethesda.
Fe gofiwch y bu’n rhaid gohirio ras y llynedd oherwydd tywydd anffafriol, felly gobeithio am well amodau eleni wrth gynnal y ras cyn y Nadolig.
Mae’n addo bod yn ddiwrnod o hwyl i bawb – bydd cofrestru am 10am, gyda’r ras ei hun i gychwyn am 11am.
“Awydd ymuno â ni am ddigwyddiad llawn hwyl i’r teulu cyfan?” ydi cais y trefnwyr.
“Mae angen cofrestru a thalu ymlaen llaw trwy e-bost: carnifalbethesda@gmail.com
“Gellir talu trwy Paypal: @carnifalbethesda2023 (mae trosglwyddiad banc hefyd yn opsiwn).”
Mae’r trefnwyr hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw un fyddai awydd helpu fel stiward ar y diwrnod. Mae rhagor o fanylion ar dudalen Facebook y Carnifal.