Ethol Catrin Wager yn ymgeisydd Plaid Cymru

Dewisodd aelodau’r blaid yn Arfon yn dilyn hystings lleol

340567D8-A59E-4E15-91C4

Catrin Wager a Hywel Williams AS (llun PC Arfon)

Yn dilyn ymgyrch diweddar o 3 ymgeisydd o Ddyffryn Ogwen, mae Catrin Wager wedi ei hethol yn ymgeisydd San Steffan Plaid Cymru dros dro yn sedd Arfon.

Hefyd yn y ras roedd y cynghorwyr sir, Beca Roberts a Paul Rowlinson.

Cynhaliwyd hystings lleol gyda’r cyfarfod olaf neithiwr yng Nghlwb Rygbi Bethesda cyn gwirio’r pleidleisiau’r aelodau.

Daw’r angen i ddewis ymgeisydd wedi penderfyniad Hywel Williams AS i ymddeol pan ddaw tymor presennol Senedd San Steffan i ben. Mae Plaid Cymru felly wedi cynnal proses  o ddewis ymgeisydd i sefyll yn Arfon petai etholiad yn cael ei alw yn fuan.

I ddarllen mwy pam fod Catrin Wager wedi rhoi ei henw ymlaen, gwelwch yr erthygl yma o Ogwen360.