Eglwys Glanogwen yn edrych ymlaen

Caplan Bro

Sara Roberts
gan Sara Roberts

Yn dilyn y cyfarfod cyhoeddus diweddar am ddyfodol Eglwys Crist, Glanogwen ym Methesda, daeth sawl peth i’r amlwg.

Cefnogaeth yn parhau

Mae’r gefnogaeth i’r eglwys arbennig hon yn parhau’n gryf, ond mae angen i ni fel aelodau i newid ychydig er mwyn darparu gwasanaeth sy’n fwy addas yn y byd sydd ohoni. Mae bywyd yn brysur, mae oblygiadau gwaith, a bywyd teuluol ayb yn golygu bod dod i’r eglwys ar fore Sul ddim yn ymarferol.

Ond, yng nghanol yr holl brysurdeb, mae’r dyhead am dawelwch, llonyddwch, a chael derbyn Cymun Bendigaid yn rhywbeth sy’n cael ei deimlo yn ddwfn. Roedd gweld colli’r eglwys yn rhywbeth gafodd ei fynegi gan fwy nag un llais, gan nodi tristwch bod o ddim yn bosib ar hyn o bryd.

Cofio yn bwysig

Soniwyd hefyd am yr angen am rywbeth i gofio’r holl bobl a gollwyd yn ystod y Cyfnod Clo, ac na chafodd angladd teilwng oherwydd y rheolau ar y pryd. Mae sawl teulu wedi mynd trwy’r profiad dirdynnol o gynnal angladd heb aelodau o’r teulu na ffrindiau i’w cefnogi a thalu teyrnged lawn. Diolch i’r rhai a rhannodd eu teimladau mor agored a gonest.

Fel eglwys rydym eisiau ymateb i’r anghenion amrywiol yma a chynnig gwasanaeth sy’n adlewyrchu ein ffydd ym Mab y Saer a ddaeth i gyhoeddi’r Deyrnas a rhannu Cariad Duw gyda’r bobl o’i gwmpas. Mae Ffydd, Gobaith a Chariad yn arwyddion o bresenoldeb Crist yng nghalon ein cymuned ac rydym yn edrych ymlaen at ddarganfod y ffordd ymlaen i amlygu hyn am flynyddoedd hir eto.

Prif bwyntiau

Allan o’r sgwrs bwysig hon, felly, mae nifer o benderfyniadau wedi codi:

1) Unwaith y mis, fydd y gwasanaeth ar y Sul yn symud i’r prynhawn, er mwyn alluogi teuluoedd i fynychu

2) Unwaith yr wythnos fydd yna wasanaeth tawel, byr gyda’r hwyr, gan ddefnyddio cerddoriaeth, myfyrdodau ayb

3) Bydd digwyddiadau ar gyfer plant yn cael eu cynnal yn rheolaidd

4) Bydd ymchwil yn cael ei chynnal i ddarganfod os oes yna angen/cefnogaeth am grŵp ‘Rhiant & Plentyn’ , fel ‘Arch Noa’

5) Bydd gwasanaeth coffa ar gyfer holl deuluoedd y fro a gollodd anwyliaid dros y Cyfnod Clo yn cael ei drefnu at fis Medi. Gwasanaeth ar y cyd gyda’r enwadau eraill ym Methesda, ac yn agored i gyfraniadau gan gerddorion a beirdd lleol er mwyn creu digwyddiad addas a chofiadwy.

Am fwy o fanylion am y newidiadau yma, cadwch lygad allan ar ein tudalen Facebook (Eglwysi Bro Ogwen) neu ar lein ac ar bosteri.

Diolch

Sara, Caplan Bro.