Dweud eich dweud am Ofod Cyd-Weithio yng Nghefnfaes

Cyfle i roi eich barn am sut y gallwn ddatblygu’r Gofod Cyd-Weithio yng Nghanolfan Cefnfaes

Robyn Morgan Meredydd
gan Robyn Morgan Meredydd

Fel rhan o ddatblygiad parhaus Canolfan Cefnfaes, mae Partneriaeth Ogwen yn bwriadu creu gofod cyd-weithio i ddarparu amgylchedd cynnes, cyfeillgar a chyfleus i bobl sy’n chwilio am “hot desk.” Byddwch yn gallu archebu desgiau ar sail talu wrth fynd bob dydd, neu o bosibl hyd yn oed ar gontractau tymor hwy.

Bydd y cyfleusterau cydweithio ar lawr uchaf Canolfan Cefnfaes, ynghyd ag ystafelloedd cymunedol a’r Gofod Gwneud. Mae gwaith adeiladu ar y safle yn mynd rhagddo, ond rydym yn gobeithio bod mewn sefyllfa i gadarnhau ein dyddiad agor yn fuan.

Er mwyn deall y diddordeb yn lleol yn ogystal â pha adnoddau y byddech yn eu disgwyl gan y gwasanaeth hwn, byddem yn ddiolchgar pe baech yn llenwi’r holiadur cyflym. Bydd yr holl adborth yn cael ei werthfawrogi wrth i ni geisio siapio’r gwasanaeth newydd hwn i anghenion lleol.

Mae holiadur ar gael yma.