Dathliad Cymru Affrica 2023: Neuadd Ogwen yn croesawu artistiaid

Bethesda yn dathlu diwylliant a chelfyddydau Affricanaidd

Carwyn
gan Carwyn

Mae Neuadd Ogwen yn paratoi ar gyfer penwythnos o weithgareddau cyffrous fydd yn dathlu diwylliant a chelfyddydau Affricanaidd.

Yn ystod Dathliad Cymru Affrica a fydd yn cael ei gynnal yn Neuadd Ogwen, Bethesda o 1 hyd 3 Mehefin, bydd cyfle i fwynhau llu o gerddoriaeth o ar draws Affrica gyda dawns, perfformiadau Affro-Gymraeg, gweithdai, arddangosfa celf a ffotograffiaeth.

Bydd y penwythnos yn cynnwys perfformiadau gan artistiaid gwadd o Affrica (Mali, De Affrica, Swdan a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo), ynghyd ag artistiaid Affricanaidd sydd wedi eu lleoli yng Nghymru a thu hwnt.

Mae modd archebu tocyn penwythnos (1af – 3ydd Mehefin) am £50.

Neu gellir prynu tocyn dydd Iau am £18 lle bydd perfformiadau gan THE SUCCESSORS OF THE MANDINGUE ALL STARS & EVE GOODMAN (Gorllewin Affrica/Cymru); AFRO CLUSTER (Cymru); BCUC (De Affrica).

Ar y dydd Gwener, gellir prynu tocyn am £18 er mwyn mwynhau DAFYDD IWAN & ALI GOOLYAD  (Cymru/Somaliland); HANISHA SOLOMON (Ethiopia); BASSEKOU KOUYATÉ & NGONI BA (Mali) a BLANK FACE (Cymru/Nigeria).

Yna ar y dydd Sadwrn bydd tocyn yn £25 i weld NWAS (Affrica); AGMAR BAND (Morocco); FFILM KRYSTAL LOWE & AIDA DIOP (Bermuda/Cymru/Senegal); RASHA (Swdan); SUNTOU SUSSO (Y Gambia) a KANDA BONGO MAN (Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo).

Am fwy o wybodaeth am y rhaglen a phrynu tocynnau ewch i wefan Neuadd Ogwen.