Cynnydd mewn achosion ‘annymunol’ tuag at staff derbynfa’r feddygfa

Mwyafrif y 7,250 o gleifion yn gefnogol ond annog pawb i ddangos parch

Carwyn
gan Carwyn

Mae meddygon Canolfan Yr Hen Orsaf ym Methesda wedi cyhoeddi neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn annog cleifion i ddangos parch at staff y dderbynfa.

Mewn apêl benodol mae’r meddygon Woodvine, Thorne, Williams, Ap Gwilym a Williams yn nodi fod yna fwy o achosion o negeseuon annerbyniol i’r staff, ond yn cydnabod fod y mwyafrif llethol o gleifion yn gefnogol iawn.

Codi llais mewn person ac ar y ffôn

“Yn anffodus, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y cleifion sy’n anghwrtais ac yn annymunol tuag at dîm y dderbynfa dros y ffôn ac yn bersonol,” meddai’r meddygon.

“Er ein bod yn gwerthfawrogi y gall aros i ddod trwodd ar y ffôn a methu a threfnu apwyntiad ar y diwrnod y gofynnir amdano bob amser fod yn rhwystredig iawn, nid ydym yn credu ei fod yn dderbyniol o dan unrhyw amgylchiadau i godi eich llais a bod yn annymunol tuag at unrhyw aelod o’n tîm.”

Cynnydd sylweddol

Mae’r mwyafrif llethol o gleifion yn parchu staff y feddygfa yn ôl y neges ar gyfrif Facebook y Ganolfan, ond mae gormod o achosion yn ddiweddar meddid.

“Mae’r galw gan gleifion wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y 12 mis diwethaf ac rydym yn gwneud ein gorau i ymdopi a’r galw a darparu’r gofal gorau posib i’r 7,250 o gleifion sydd wedi cofrestru gyda ni.”

Diolch

Ond, mae’n glir er bod cynnydd mewn achosion o godi llais, mae’r rhan fwyaf o gleifion y feddygfa wastad yn cefnogi’r staff.

“Ar nodyn mwy cadarnhaol, hoffem ddiolch i’r mwyafrif helaeth o gleifion sydd bob amser yn gefnogol ac yn deall y pwysau mae tîm y Feddygfa yn eu hwynebu. Diolch yn fawr.”