Cyfle i glywed am uchelgais ‘Ogwenydd’, bardd-chwarelwr o’r fro

Darlith Goffa Dafydd Orwig yn Llyfrgell Bethesda ar 5 Mehefin

Carwyn
gan Carwyn
GwenGruffudd2023_A4

Breuddwyd bardd-chwarelwr o Ddyffryn Ogwen: ‘Po fwyaf oedd yr awydd am gael ym cynhyrchion trwy y wasg, mwyaf oedd yr anhawsderau’. 

Dyma fydd testun Darlith Goffa Dafydd Orwig a fydd yn cael ei chynnal yn Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen, Bethesda ar nos Lun, 5 Mehefin am 7.30pm. Yn traddodi’r ddarlith eleni fydd Dr Gwen Angharad Gruffudd, sy’n wreiddiol o Rhiwlas a bellach wedi ymgartrefu yn ardal Rhostryfan.

‘Ogwenydd’

Mae’r teitl hir yn cyfeirio at ddyfyniad gan ‘Ogwenydd’, neu i roi ei enw genedigol John R. Jones. Ganed Ogwenydd yn 1860, yn fab i Richard ac Ann Jones o Fethesda.

Yn gystadleuwr brwd mewn Eisteddfodau, ac yn gyfrannwr i bapurau newydd, bydd y ddarlith yn trafod traddodiad y bardd-chwarelwr a’r uchelgais i weld eu gwaith mewn print.

“Bydd Gwen yn sôn yn ei darlith beth oedd yn ei yrru fo a nifer o rai tebyg iddo, sef mai cael cyhoeddi eu barddoniaeth oedd pinacl uchelgais chwarelwr cyffredin fel ef ac eraill,” meddai Nia Gruffydd, Rheolwr Llyfrgelloedd Gwynedd.

“Er ei bod hi’n ‘oes aur’ a’r wasg Gymraeg yn ei bri, nid oedd sicrwydd bob amser fod bardd dosbarth gweithiol yn mynd i allu gwireddu’r freuddwyd.

“Bydd Gwen hefyd yn cymharu Ogwenydd gydag ambell fardd lleol arall fu’n fwy llwyddiannus, a pham, a chyfeirio hefyd at un ddynes oedd o flaen ei hoes!”

Dewch draw ar 5 Mehefin

Felly, os oes gennych chi ddiddordeb yn hanes a thraddodiad llenyddol yr ardal, cofiwch fynd draw ar gyfer y ddarlith flynyddol yma. Mae’n addo cynnig cipolwg difyr ar gyfnod a chymdeithas Dyffryn Ogwen yn hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Bydd mynediad am ddim – mae’r ddarlith yn cael ei noddi gan Wasanaeth Llyfrgell Gwynedd gyda chydweithrediad Partneriaeth Ogwen.