Cofio Dr John Elwyn Hughes

Yr awdur, ieithydd a hanesydd o Ddyffryn Ogwen wedi marw

Carwyn
gan Carwyn

Mae un a wnaeth gyfraniad aruthrol i hanes a diwylliant Dyffryn Ogwen wedi marw yn dilyn gwaeledd.

Roedd Dr John Elwyn Hughes yn ymddiddori yn iaith a diwylliant Cymru, ond roedd ei frwdfrydedd am ei ardal enedigol yn amlwg iawn.

Yn aelod a chyfrannwr cyson i gymdeithasau Dyffryn Ogwen ar hyd y blynyddoedd, roedd ei golofnau misol “Pwy sy’n cofio ddoe” yn Llais Ogwan hefyd yn aml yn adrodd am brofiadau ei lencyndod yn Nyffryn Ogwen.

“Athro gofalus a chefnogol”

Wedi cwblhau ei astudiaethau yn Ysgol Dyffryn Ogwen, graddiodd mewn Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ac ennill M.A. mewn Addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor. Yna, dychwelodd yn syth i’w hen ysgol lle bu’n Bennaeth Adran y Gymraeg, wedyn yn Ddirprwy ac yna’n Bennaeth.

Yn dilyn ei gyfnod yn Ysgol Dyffryn Ogwen, bu’n Gyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Iaith, ac yn fwy diweddar roedd yn gweithio fel ymgynghorydd iaith.

Mae Dr Dafydd Roberts wedi bod yn talu teyrnged i’w gyfaill a chyd-aelod o Gymdeithas Hanes Dyffryn Ogwen.

“Roedd yn hynod ddrwg gennyf glywed am farwolaeth Dr John Elwyn Hughes – gwr a oedd mor falch o’i fro enedigol, ac a dreuliodd oes yn casglu, cofnodi ac ysgrifennu am bob agwedd o hanes Dyffryn Ogwen,” meddai Dafydd Roberts.

“Deuthum i’w adnabod yn gyntaf pan gyrhaeddais Ysgol Dyffryn Ogwen ar ddiwedd 1970. Fo oedd pennaeth Adran y Gymraeg yno, athro gofalus a chefnogol. Ond roedd yn weithgar mewn pob math o ffyrdd eraill, hefyd – cynhyrchu dramâu, trefnu Eisteddfod yr ysgol, a meithrin talentau lleol.

“Gyda fy nheulu â diddordeb mewn hanes lleol, gwelais frwdfrydedd di-ben-draw Elwyn yn y maes hwnnw, hefyd, a’i barodrwydd i gasglu a diogelu pob math o adnoddau hanesyddol. Nid casglu er mwyn cuddio, ond yn hytrach casglu er mwyn rhannu efo trigolion y Dyffryn. Roedd ei ysgrifau taclus, eglur yn Llais Ogwan yn bleser i’w darllen.”

“Colli hanesydd penigamp”

Wrth gwrs, roedd J Elwyn Hughes yn arbenigwr ar waith Caradog Prichard a chyhoeddodd sawl cyfrol yn trin a thrafod ‘Un Nos Ola Leuad’ a gweithiau eraill y llenor o Fethesda.

Roedd yn awyddus i ddathlu a chydnabod hanes yr ardal a bu’n amlwg iawn yn y gwaith o goffau gwaith llenorion y fro. Gwelir ôl y llafur yn y coflechi sydd i’w gweld ar nifer o adeiladau’r dyffryn lle bu cyswllt gydag awduron neu lenorion yr ardal.

Esbonia Dafydd Roberts: “Wedi i mi ddychwelyd i Ddyffryn Ogwen yn 1981, cefais y pleser o gyd-weithio efo Elwyn dros ddegawdau, a hynny ym myd hanes lleol.

“Bu’n aelod prysur o Gymdeithas Hanes Dyffryn Ogwen o’r cychwyn cyntaf, yn barod iawn ar bob adeg i ddarlithio gerbron y Gymdeithas, a’i ddarlithoedd yn llawn i’r ymylon o’r lluniau, dogfennau, ffotograffau a‘r mapiau oedd wedi eu casglu ganddo. Byddai popeth yn ei le, gyda’i wybodaeth drylwyr am bob agwedd o hanes yr ardal yn serennu drwy’r cyfan.

“Priodol dros ben oedd penderfyniad y Gymdeithas Hanes, yn Chwefror 2022, i’w ethol yn Llywydd Anrhydeddus y Gymdeithas. Cefais hefyd y pleser o gyd-weithio efo fo fel aelod o’r pwyllgor lleol fu’n gyfrifol am osod coflechi ar gartrefi rhai o enwogion y Dyffryn. Unwaith eto, roedd ei wybodaeth ryfeddol am yr unigolion yma, eu cyflawniadau, a’u cyfraniad i’r Dyffryn, yn eglur i bawb ohonom.

“Bydd Dyffryn Ogwen, a Chymru, yn gweld colli hanesydd penigamp, dyn oedd yn adnabod a charu ei fro. Rwy’n estyn fy nghydymdeimlad i Deilwen, Manon, Siôn, a gweddill ei deulu, yn eu profedigaeth anferth, ac yn diolch iddynt am eu cefnogaeth iddo. Roedd Elwyn yn falch dros ben ohonynt.”

Dyn iaith a gramadeg

Ond mae ei gyfraniad i Gymru gyfan fel sydd i’w weld o’r teyrngedau sydd wedi ei rhoi iddo. Mae’n debyg bod copïau o gyfrolau gramadeg Dr J Elwyn Hughes i’w gweld mewn cartrefi ac ysgolion ar hyd a lled y wlad.

Yn aelod o’r Orsedd gan ei anrhydeddu â’r wisg wen am ei gyfraniad i’r Gymraeg yn 1993, bu’n olygydd ar gyfrol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau’r Eisteddfod Genedlaethol am 30 mlynedd.

Talwyd teyrnged iddo gan yr Eisteddfod: “Rydyn ni’n cofio’n annwyl am Dr J Elwyn Hughes heddiw.

“Yn ddyn iaith a gramadeg o’i goryn i’w sawdl, roedd yn olygydd heb ei ail, a’i lygad craff yn amhrisiadwy wrth dynnu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau ynghyd bob blwyddyn. Ein cydymdeimladau dwysaf at ei deulu a’i gyfeillion.”

Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu’r Dr J Elwyn Hughes, gan gofio am ei gyfraniad amhrisiadwy i Ddyffryn Ogwen a Chymru gyfan.

1 sylw

Dafydd Alun Roberts
Dafydd Alun Roberts

Colled fawr i ardal Dyffryn Ogwen. Athro a chymydog heb ei ail. Disgybledig ei ffordd ond cefnogol tu hwnt tuag at genedlaethau o ddisgyblion hen ac ifanc – wedi dysgu llawer iawn gan Mr. Hughes yn YDO yn y saithdegau. Fydd chwith ar ei ôl.

Mae’r sylwadau wedi cau.