Cinio Nadolig cymunedol am ddim – cwmni a bwyd arbennig

Blas Lon Las yn Nhregarth fydd y lleoliad eto eleni am y wledd, gyda chludiant ar gael

Carwyn
gan Carwyn
CinioNadolig

Y criw fuodd wrthi’r llynedd yn paratoi’r cinio Nadolig cymunedol

401689888_344154758199331-1

Er yr hwyl a’r dathlu i lawer o deuluoedd, mae’r Nadolig yn gallu bod yn ddiwrnod anodd i rai.

Ond yma ym Methesda, mae’r gymuned yn dod ynghyd eto eleni gan gynnig cinio Nadolig cymunedol am ddim lle bydd croeso arbennig, a phryd a hanner wrth gwrs.

Gwirfoddolwyr

Dyma’r ail flwyddyn i’r pryd ’Dolig cymunedol gael ei threfnu fel y mae un o’r trefnwyr, y Cynghorydd Beca Roberts yn esbonio.

“Wrth i’r Nadolig agosau, mae’n bleser gen i gyhoeddi’r bod gwirfoddolwyr unwaith eto yn trefnu Cinio Nadolig Rhad ac Am Ddim yng Nghaffi Blas Lôn Las yn Nhregarth ar Ddydd Nadolig.

“Mae hyn yn dilyn llwyddiant digwyddiad y llynedd lle daeth 30 o bobol at ei gilydd i rannu pryd o fwyd cynnes a hwyl yr ŵyl.

“Ni fyddai’r digwyddiad yma yn bosibl heb haelioni Caffi Blas Lôn Las, gwirfoddolwyr ymroddedig, a’r rhoddion caredig gan ein cymuned leol.”

Cludiant ar gaelFel y llynedd, mae cludiant ar gael i unrhyw un sydd ei angen a bydd yna groeso i chi draw yn Nhregarth.

“Unwaith eto, rydym yn estyn gwahoddiad agored i unrhyw un sy’n chwilio am le cynnes i eistedd a mwynhau pryd o fwyd cynnes ar ddiwrnod Dolig,” meddai Beca.

“Os hoffech chi neu rywun rydych chi’n ei nabod ymuno â ni, peidiwch ag oedi cyn estyn allan. Rydym hefyd yn cynnig cymorth gyda chludiant – diolch i Ddyffryn Gwyrdd am ddefnydd eu car letric – felly mae croeso i chi ffonio neu anfon neges destun i gydlynu lifft.”

I roi gwybod os ydych angen lifft, cysylltwch â’r Caplan Bro, Sara Roberts ar sararoberts@cinw.or.uk / 07967652981 neu’r Cynghorydd Beca Roberts ar Cynghorydd.becaroberts@gwynedd.llyw.cymru / 07436927237.