Cyfle i etholwyr gwrdd â’u cynrychiolwyr gwleidyddol i drafod materion a phryderon lleol yw cymhorthfa.
A’r mis nesaf bydd Siân Gwenllian a Beca Roberts yn cynnal cymhorthfa ar y cyd yn Nhregarth.
Mae Siân yn cynrychioli etholaeth Arfon, sy’n cynnwys Dyffryn Ogwen yn Senedd Cymru, ac fe gafodd Beca ei hethol i gynrychioli ward Tregarth a Mynydd Llandygai yn etholiadau Cyngor Gwynedd ym mis Mai 2022.
Mae trigolion lleol yn cael eu hannog i ddod i drafod materion sy’n berthnasol i Senedd Cymru, gan gynnwys iechyd, tai, addysg, a’r amgylchedd, neu faterion yn ymwneud â Chyngor Gwynedd, gan gynnwys casgliadau sbwriel a chaniatâd cynllunio.
Dylai’r sawl sy’n dymuno mynychu’r gymhorthfa gysylltu â’r swyddfa i drefnu apwyntiad. Gallwch wneud hynny drwy anfon e-bost at sian.gwenllian@senedd.cymru neu drwy ffonio 01286 672076.